Ludwig van Beethoven: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: lad:Ludwig van Beethoven |
Yn dileu "DBP_-_200_Jahre_Beethoven_-_10_Pfennig_-_1970.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Rosenzweig achos: per c:Commons:Deletion requests/Files in Category:Stamps by Heinz Schillinger. |
||
(Ni ddangosir y 26 golygiad yn y canol gan 15 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1:
{{Person
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
[[Cyfansoddwr]] [[Yr Almaen|Almaenig]] o'r cyfnod clasurol oedd '''Ludwig van Beethoven''' ([[17 Rhagfyr]] [[1770]] – [[26 Mawrth]] [[1827]]), er bod ei gyfansoddiadau yn cael eu hystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod [[Rhamantaidd]]. Er iddo golli ei [[Clyw|glyw]] yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i hystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei [[Symffoni rhif 5 (Beethoven)|bumed]] a'i [[Symffoni rhif 9 (Beethoven)|nawfed]] symffoni, y darn piano "[[Für Elise]]", y sonata "[[Pathétique]]" a'r sonata "[[Lloergan]]".
== Cefndir ==
Ganwyd Beethoven yn [[Bonn]], yn blentyn hynaf Johann a Maria Magdalena van Beethoven. Does dim sicrwydd am ddiwrnod ei eni, ond cafodd ei [[Bedydd|fedyddio]] ar 17 Rhagfyr 1770.<ref>{{Cite web|title=Beethoven: Compositions, biography, siblings and more facts|url=https://www.classicfm.com/composers/beethoven/guides/beethoven-20-facts-about-great-composer/|website=Classic FM|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref> Mae'r adeilad lle cafodd ei eni bellach yn cael ei ddefnyddio fel amgueddfa Beethoven-Haus.<ref>{{Cite web|title=Beethoven-Haus Bonn|url=https://www.beethoven.de/en/about-us#history|website=Beethoven-Haus Bonn|access-date=2021-04-14|language=en|first=Beethoven-Haus|last=Bonn|first2=Beethoven-Haus|last2=Bonn}}</ref> Roedd y teulu o darddiad [[Ffleminiaid|Ffleminaidd]] a gellir ei olrhain yn ôl i [[Mechelen]]. Taid Beethoven oedd wedi ymgartrefu gyntaf yn Bonn pan ddaeth yn ganwr yng nghôr archesgob-etholwr [[Cwlen]]; cododd yn y pen draw i ddod yn Kapellmeister. Roedd ei fab Johann hefyd yn ganwr yng nghôr Etholwr Bonn, Maximilian Friedrich. Er eu bod yn eithaf llewyrchus ar y dechrau, daeth teulu Beethoven yn raddol dlotach gyda marwolaeth y taid ym 1773 ac effaith alcoholiaeth ar y tad. Erbyn ei fod yn 11 oed roedd yn rhaid i Beethoven adael yr ysgol. Erbyn 18 oed ef oedd y prif ddarparwr ar gyfer anghenion y teulu.<ref>{{Cite web|title=Ludwig van Beethoven {{!}} Biography, Music, & Facts|url=https://www.britannica.com/biography/Ludwig-van-Beethoven|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref>
== Hyfforddiant cerddorol ==
Bu perfformiad cyhoeddus cyntaf Beethoven ar 26 Mawrth 1778 lle bu'n canu nifer o wahanol offerynnau.<ref>{{Cite web|title=Beethoven: Background|url=https://www.its.caltech.edu/~tan/BeethovenMissaSolemnis/background_on_beethoven.html|website=www.its.caltech.edu|access-date=2021-04-14}}</ref>
Bryd hynny anfonwyd ef at organydd y llys Gilles van den Eeden, i ddysgu theori cerddoriaeth ac i gael hyfforddiant ar yr [[Allweddell|allweddellau]]. Ymddengys iddo hefyd gael gwersi piano gan Tobias Friedrich Pfeiffer, a fu'n lletya am gyfnod gyda'r teulu, a hyfforddiant anffurfiol gan sawl organydd lleol. Rhoddodd perthynas i'r teulu, Franz Rovantini, wersi i'r bachgen ar y ffidil a'r fiola.<ref name="Grove">{{Cite web|title=Beethoven, Ludwig van|url=https://www.oxfordmusiconline.com/grovemusic/view/10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000040026|website=Grove Music Online|access-date=2021-04-14|doi=10.1093/gmo/9781561592630.article.40026|language=en}}</ref>
Ym 1779, penododd yr etholwr y cerddor amlwg Christian Gottlob Neefe fel cyfarwyddwr ei gwmni theatr a'r flwyddyn ganlynol fe'i dyrchafwyd i fod yn organydd y llys. Cymerodd Neefe Beethoven fel disgybl cerddorol.<ref name="Grove" />
Pan fu'n raid i Neefe ymadael â Bonn ym 1782 am gyfnod, penododd Bethoven, a oedd yn 11 oed ar y pryd, i gyflenwi drosto yn ei absenoldeb. Ym 1783 penodwyd Beethoven gan Neefe yn offerynnwr yr allweddellau yn y gerddorfa ac yn hydref yr un flwyddyn goruchwyliodd gyhoeddiad cyntaf y cerddor ifanc; tair sonata i'r piano a gyflwynwyd i'r Etholwr Maximilian Friedrich. Doedd Beethoven ddim yn cael cyflog na thâl swyddogol am y swyddi y penododd Neefe ef iddynt; yn fwy na dim, roedd yn cyflawni'r dyletswyddau yn gyfnewid am ei hyfforddiant.
----
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Commons|Ludwig van Beethoven}}
Llinell 10 ⟶ 27:
{{Eginyn Almaenwyr}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{DEFAULTSORT:Beethoven, Ludwig van}}
[[
[[Categori:Genedigaethau 1770]]
[[Categori:Marwolaethau 1827]]
|