Melodrama

Oddi ar Wicipedia
Melodrama
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o theatr, math o ffuglen Edit this on Wikidata
Mathdrama fiction, drama Edit this on Wikidata

Gwaith ffuglen a nodweddir gan blot amrwd ac emosiwn eithafol yw melodrama.[1] Datblygodd y math hwn o ffuglen yn Ffrainc yn y 18g, ac roedd y ffurf glasurol yn cynnwys elfennau o gerddoriaeth, golygfeydd ysblennydd, cyffro, a gordeimladrwydd. Cyrhaeddodd y felodrama ei hanterth yn theatr Lloegr yn y 19g gan ddefnyddio effeithiau arbennig ar y llwyfan, a phortread dros ben llestri o gymeriadau drwg y stori.

Bôn y gair yw cyfuniad o'r geiriau Groeg melo (cân) a drama (drama).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  melodrama. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Mehefin 2015.
Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.