Croeso i wefan y Swyddfa Gartref
Rydym yn rhoi diogelu'r cyhoedd yn glir wrth wraidd ein gwaith i wrthsefyll terfysgaeth, lleihau troseddau, darparu polisïau effeithiol, diogelu ein ffiniau a diogelu hunaniaeth bersonol.
Manylion cyswllt y Swyddfa Gartref
Home Office
Direct Communications Unit
2 Marsham Street
London SW1P 4DF
Ffôn: 020 7035 4848 (09:00-17:00 Llun-Gwen)
Ffacs: 020 7035 4745
Minicom: 020 7035 4742 (09:00-17:00 Llun-Gwen). Noder mai gwasanaeth i aelodau o'r cyhoedd sydd â nam ar eu clyw yw'r gwasanaeth hwn.
E-bost: public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk
Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus baratoi a mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref yn berthnasol i bencadlys y Swyddfa Gartref, Asiantaeth Ffiniau’r DU a chyrff anadrannol y Swyddfa Gartref nad ydynt â’u Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau yngl?n â’r cynllun, neu ddeunydd allai fod ar y wefan hon yn unol ag o, anfonwch e-bost at cymraeg@homeoffice.gsi.gov.uk
Cwynion
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon a chwrtais i chi, ond mae'n anochel y bydd pethau yn mynd o'i le o bryd i'w gilydd.
Rhowch wybod i ni pan fydd hyn yn digwydd fel y gallwn unioni materion cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut y gallwn wella ein gwasanaeth yn gyffredinol, byddwn yn fwy na pharod i wrando.
Cwynion cyffredinol
Ysgrifennwch at:
Home Office
Direct Communications Unit
2 Marsham Street
London SW1P 4DF
Ffôn: 020 7035 4848
Ffacs: 020 7035 4745
Minicom: 020 7035 4742
E-bost: public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk
Cwynion yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo
Gweler y dudalen gwynion ar wefan yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo, sy'n egluro pa ran o'r Asiantaeth y dylid cwyno iddi ar gyfer gwahonol gwynion.
Cwynion am yr heddlu
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gwyno am yr heddlu:
- Ewch i'ch gorsaf heddlu leol - Gallwch fynd i orsaf yr heddlu a gofyn am gael gweld uwch swyddog yr heddlu. Bydd hi neu ef yn eich cynghori ar sut i gofrestru eich cwyn
- Gallwch gysylltu â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu a fydd yn cysylltu â'r heddlu ar eich rhan
Ysgrifennwch at:
Independent Police Complaints Commission
90 High Holborn
London WC1V 6BH
Ffôn: 08453 002 002
Ewch i: www.ipcc.gov.uk
Ebost: enquiries@ipcc.gov.uk