(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Martin o Tours - Wicipedia

Martin o Tours

sant Cristnogol
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:09, 28 Awst 2009 gan LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)

Sant ac Esgob Tours oedd Sant Martin o Tours (Lladin: Sanctus Martinus Turonensis, (316 - 8 Tachwedd 397.

El Greco: Sant Martin a'r cardotyn

Ganed ef yn Savaria, Pannonia (Szombathely yn Hwngai heddiw). Roedd ei dad yn swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig; yn ddiweddarach symundwud ef i Ticinum, Gallia Cisalpins (Pavia yn yr Eidal heddiw), lle magwyd Martin.

Ymunodd a'r fyddin, a thua 334 roedd yn gwasanaethu yn Ambianensium civitas neu Samarobriva, Gâl (Amiens yn Ffrainc heddiw). Yno, roedd gyda'i filwyr ger porth y ddinas pan welodd gardotyn heb fawr o ddillad. Torrodd Martin ei fantell yn yn ei hanner, a rhoi un hanner i'r cardotyn. Y noson honno, cafodd weledigaeth mai Iesu Grist oedd y cardotyn.

Yn ddiweddarach, aeth i Tours, lle daeth yn ddisgybl i Hilarius o Poitiers, ac yn ddiweddarach bu'n byw fel meudwy ar yr Isola d'Albenga. Daeth yn Esgob Tours yn 371. Yn y Canol Oesoedd, daeth ei fedd yn ninas Tours yn gyrchfan boblogaidd i bererinion. Arferai brenhinoedd y Ffranciaid gario mantell Sant Martin (cappa yn Llanin, bychanigyn cappilla) o'u blaenau mewn brwydrau. Yr arferiad yma yw tarddiad y geiriau capel a caplan.

Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i bentref Castellmartin yn Sir Benfro.