(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Afon Rhythallt - Wicipedia

Afon Rhythallt yw'r enw a roddir ar ran uchaf yr afon yng Ngwynedd a elwir yn Afon Seiont yn ei rhan isaf.

Afon Rhythallt
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1488°N 4.1703°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'n tarddu yn Llyn Padarn gerllaw pentref Cwm-y-glo, ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin. Wedi llifo tan Bont Rhythallt ger Llanrug, gelwir hi yn Afon Seiont am y gweddill o'i thaith tua'i haber yn nhref Caernarfon.

Afon Rhythallt ger Llanrug