Gwasg Gee
Argraffdy a thŷ chyhoeddi Cymraeg yn Lôn Swan, Dinbych, oedd Gwasg Gee. Am ran haelaeth dwy ganrif bu'n un o brif weisg Cymru.
Math | cyhoeddwr, gwasg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Gwlad | Cymru |
Perchnogaeth | T. Gee a'i Fab, Thomas Gee |
Yn 1808 roedd y Parch. Thomas Jones, a gofir fel awdur Hanes y Merthyron, wedi sefydlu gwasg yn 23 Stryd y Ffynnon, Rhuthun.[1] Daeth Thomas Gee Hynaf i weithio iddo o Lundain.[2] Yn Ebrill 1809, symudodd Thomas Jones a Gee Hynaf y wasg i dref Dinbych.[3] Yn 1813, ar ôl iddo gyhoeddi ei Hanes y Merthyron, gwerthodd Thomas Jones y wasg i Thomas Gee Hynaf.[3]
Cymerwyd y wasg drosodd gan ei fab, Thomas Gee yn ddiweddarach. Daethont yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau Cymreig megis Y Faner a'r Gwyddoniadur Cymreig.
Ymunodd y bardd T. Gwynn Jones â'r wasg yn 1891, fel newyddiadurwr gyda'r Faner, cyn gadael i weithio ar Y Cymro - ond dychwelodd fel Is-olygydd Y Faner yn 1895.[4]
Yn 1914 gadawodd y wasg ddwylo'r teulu. Roedd yr awdures Kate Roberts a'i gŵr, Morris T. Williams, yn berchen ar y wasg yn ystod yr 1930au[5]. Caewyd y wasg yn 2001. Roedd bwriad troi'r adeilad yn Ninbych yn amgueddfa ond ni lwyddwyd i ddenu nawdd, ac felly mae cais wedi cael ei wneud i droi'r adeilad yn fflatiau.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhwydwaith Archifau Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2007-10-29.
- ↑ T. Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 15.
- ↑ 3.0 3.1 T. Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Gee a'i Fab, Dinbych, 1913), tud. 16.
- ↑ "'Rhwydwaith Archifau Cymru'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-15. Cyrchwyd 2008-12-29.
- ↑ Gwasg Gee ar wefan Casglu'r Tlysau[dolen farw]
- ↑ Gwasg Gee: Cais am 11 o fflatiau BBC 26 Hydref 2007