(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Gwyrdd - Wicipedia

Lliw yw gwyrdd, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 520–570 nanomedr. Mae'n un o'r lliwiau primaidd ynghyd â coch a glas.

Gwyrdd
Enghraifft o'r canlynollliw primaidd, lliw a enwir gan HTML4, lliw primaidd, spectral color Edit this on Wikidata
Mathgoleuni, lliw Edit this on Wikidata
Rhan o7-liw'r enfys Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganmelyn Edit this on Wikidata
Olynwyd ganglas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwyrdd

Symbolaeth

golygu

Mae'r lliw gwyrdd yn cynrychioli byd planhigion a thyfiant Natur, yn enwedig yn y gwanwyn.

Yn Tsieina mae'n gysylltiedig â mellt a hirhoedledd. Yng nghrefydd Islam, gwyrdd yw lliw ffyniant ysbrydol a materol, doethineb a'r proffwydi;[1] mae i'w weld yn aml ar faneri Islamaidd a baneri cenedlaethol gwledydd Mwslim, e.e. baner Libya.

Yn symbolaeth Cristnogaeth mae gwyrdd yn cael ei gysylltu ac adnewyddu a gobaith; yn yr Oesoedd Canol roedd rhai artistiaid yn paentio croes Crist yn wyrdd fel arwydd o'r Atgyfodiad a'r gobaith o ddychwelyd i Eden.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Udo Becker, The Continuum Encyclopedia of Symbols (Efrog Newydd, 2002).
  2. Udo Becker, op. cit..
Chwiliwch am gwyrdd
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am liw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.