Ira Levin
Nofelydd a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd Ira Marvin Levin (27 Awst 1929 – 12 Tachwedd 2007).[1]
Ira Levin | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1929 |
Bu farw | 12 Tachwedd 2007 Manhattan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, nofelydd, llenor |
Arddull | ffuglen ddamcaniaethol |
Gwobr/au | The Grand Master, Edgar Allan Poe Award for Best First Novel |
Gwefan | http://www.iralevin.org |
llofnod |
Ganed ym Manhattan, Dinas Efrog Newydd, ac yno ac yn y Bronx cafodd ei fagu. Mynychodd yr ysgol baratoi breifat Ysgol Horace Mann yn y Bronx. Aeth ym Mhrifysgol Drake yn Des Moines, Iowa, am ddwy flynedd cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd i astudio athroniaeth a Saesneg. Wedi iddo raddio ym 1950, cytunodd ei dad, yn gyndyn, i ariannu Ira am ddwy flynedd tra yr oedd yn cychwyn ar ei yrfa lenyddol. Gwerthodd ei sgript deledu gyntaf i NBC ar gyfer y gyfres antholeg ingol Lights Out ym 1951. Ysgrifennodd hefyd i'r rhaglenni teledu Clocks a The United States Steel Hour.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, y stori ddirgelwch A Kiss Before Dying, ym 1953, yr un adeg iddo gael ei alw i Fyddin yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd gyda'r Corfflu Signalau yn Queens, Efrog Newydd, ac yno bu'n sgriptio a chynhyrchu ffilmiau hyfforddi. Enillodd A Kiss Before Dying Wobr Edgar am y nofel gyntaf orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm ym 1956 yn serennu Joanne Woodward a Robert Wagner. Trodd Levin ei sylw at theatr Broadway, ac ym 1955 cafodd lwyddiant gyda'i addasiad o'r llyfr No Time for Sergeants gan Max Hyman. Cafwyd mwy na 700 o berfformiadau yn Broadway, gydag Andy Griffith yn y brif ran. Nid oedd ei ddramâu dilynol yr un mor lwyddiannus: cafwyd pedwar perfformiad o Interlock (1958), gyda Maximilian Schell; trimis o Critic's Choice (1960) gyda Henry Fonda; dau berfformiad o General Seeger (1962), a gyfarwyddwyd gan George C. Scott; ac wythnos yn unig y bu ei sioe gerdd, Drat! That Cat! (1966), ar y llwyfan.
Cyhoeddodd Levin ei ail nofel, y stori arswyd seicolegol Rosemary's Baby, ym 1967. Addaswyd y nofel yn ffilm, a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski ac yn serennu Mia Farrow, ym 1968. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Levin ddrama arall, Dr. Cook's Garden (1968), a'r nofel wyddonias ddystopaidd This Perfect Day (1970). Nofel wyddonias ddychanol yw ei bedwaredd nofel, The Stepford Wives (1972), a addaswyd yn ffilm ym 1975. Cafodd un arall o lyfrau Levin, y nofel wyddonias gyffrous The Boys from Brazil (1976), ei addasu'n ffilm boblogaidd, ym 1978 yn serennu Gregory Peck a Laurence Olivier. Cafodd lwyddiant mawr yn Broadway gyda'i ddrama Deathtrap (1978), a enillai Wobr Edgar ym 1980.
Priododd Levin â Gabrielle Aronsohn ym 1960, a chawsant dri mab cyn diddymu'r briodas ym 1968. Priododd Levin â Phyllis Finkel ym 1979, a diddymwyd y briodas ym 1981. Derbyniodd Wobr Bram Stoker oddi ar Gymdeithas Llenorion Arswyd yr Unol Daleithiau am gyflawniad oes, a chafodd ei urddo'n Uchel Feistr gan Lenorion Dirgelwch America. Dilyniant i Rosemary's Baby oedd ei nofel olaf, Son of Rosemary (1997), a dderbyniodd adolygiadau gwael. Ysgrifennodd ei ddrama olaf, Footsteps, yn 2003. Bu farw yn ei gartref ym Manhattan yn 78 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Peter Guttridge, "Obituary: Ira Levin Archifwyd 2021-04-14 yn y Peiriant Wayback", The Independent (15 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 14 Ebrill 2021.
- ↑ (Saesneg) Margalit Fox, "Ira Levin, of ‘Rosemary’s Baby,’ Dies at 78", The New York Times (14 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 14 Ebrill 2021.