Jesse James
Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 1847 – 3 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA. Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint â $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.[1]
Jesse James | |
---|---|
Ganwyd | Jesse Woodson James 5 Medi 1847 Kearney |
Bu farw | 3 Ebrill 1882 St. Joseph |
Man preswyl | Jesse James Home Museum |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cowboi |
Tad | Robert S. James |
Mam | Zerelda James |
Priod | Zerelda Mimms |
Plant | Jesse E. James |
llofnod | |
Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: yr oedd Jesse yn or-ŵyr i William James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu.[2] Enw'i daid (sef mab William James) oedd John James.[3]
Gweler hefyd
golygu- Isaac Davis, mab hynaf Mary Nash a David Davis o Gydweli: gweinidog a lofruddiodd dros 100 o bobl, gan reibio'u gwragedd.
- Wild Bill Williams, o Ddinbych
- John T. Morris, sheriff o Collins County, Texas
Cyfeiriadau
golygu- ↑ King, Susan (17 Medi, 2007). "One more shot at the legend of Jesse James". Los Angeles Times. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2008. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ www.thefreelibrary.com; adalwyd 17 Mawrth 2015
- ↑ www.engagingnews.us;[dolen farw] adalwyd 17 Mawrth 2015
Llyfryddiaeth
golygu- Daily Post (30 Ebrill 2008)