Marlon Brando
Roedd Marlon Brando, Jr. (3 Ebrill 1924 – 1 Gorffennaf 2004) yn actor o'r Unol Daleithiau, enillydd Oscar, a ystyrir yn un o'r actorion ffilm mwyaf yr 20g.
Marlon Brando | |
---|---|
Ganwyd | Marlon Brando Junior 3 Ebrill 1924 Omaha |
Bu farw | 1 Gorffennaf 2004 o methiant anadlu Los Angeles |
Man preswyl | Libertyville, Evanston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Godfather, Apocalypse Now, A Streetcar Named Desire, On The Waterfront, One-Eyed Jacks, Le Dernier Tango À Paris, Burn! |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Taldra | 175 centimetr |
Tad | Marlon Brando, Sr. |
Mam | Dodie Brando |
Priod | Anna Kashfi, Movita Castaneda, Tarita Teriipaia |
Partner | Irene Papas |
Plant | Stephen Blackehart, Cheyenne Brando, Christian Brando, Simon Teihotu Brando, Rebecca Brando, Miko Castaneda Brando |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd |
Gwefan | http://marlonbrando.com/ |
llofnod | |
Daeth â thechnegau actio method (neu'r System Stanislavski cyffelyb) a ddysgodd yn Actors Studio, Efrog Newydd, i amlygrwydd yn y ffilmiau A Streetcar Named Desire ac On the Waterfront, a gyfarwyddwyd ill dau gan Elia Kazan yn y 1950au cynnar. Cafodd ei ddull actio, ynghyd â'i bersona cyhoeddus fel dyn ar yr ymylon heb ddiddordeb yn Hollywood "swyddogol" y cyfnod, effaith bellgyrhaeddol ar y genhedlaeth o actorion newydd a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y pumdegau ac yn ystod y 1960au cynnar.
Cymerai Marlon Brando ran amlwg mewn gweithgareddau gwleidyddol yn ogystal, e.e. y Mudiad Hawliau Dinesig yn America a'r American Indian Movement.
Fe'i enwyd y pedwerydd Seren Gwrywaidd Mwyaf Erioed gan Gymdeithas Ffilm America (The American Film Institute).