Max Planck
ffisegydd o'r Almaen oedd Max Karl Ernst Ludwig Planck (23 Ebrill 1858 – 4 Hydref 1947). Ef a luniodd y ddamcaniaeth cwantwm.
Max Planck | |
---|---|
Ganwyd | Max Karl Ernst Ludwig Planck 23 Ebrill 1858 Kiel |
Bu farw | 4 Hydref 1947 Göttingen |
Man preswyl | Kiel, München |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Bizone |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd damcaniaethol, academydd, ffisegydd, athronydd |
Swydd | Geheimrat, athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Planck's law, h |
Plaid Wleidyddol | German People's Party |
Tad | Wilhelm von Planck |
Priod | Marie Merck |
Plant | Erwin Planck, Karl Planck |
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Adlerschild des Deutschen Reiches, Medal Max Planck, Gwobr Goethe, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Lorentz Medal, Harnack medal, Medal Helmholtz, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Liebig, Medal Franklin, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Honorary doctor of the Technical University of Berlin, Guthrie Lecture, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Cefndir
golyguGanwyd yn Kiel, a hanai Planck o deulu dawnus; roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi gwneud gwaith ymchwil mewn amryw o feysydd academaidd. Roedd ei dad yn athro coleg yn y gyfraith. Pan oedd Planck yn llanc symudodd y teulu i München yn dilyn penodiad ei dad yn athro yn y coleg.
Addysg
golyguDechreuodd Planck astudio ffiseg yn München yn 1874, gan raddio'n athro yn 1878. Derbyniodd radd doethur yn 1879 a gradd uwch-ddoethur Privatdozent yn 1880.
Gyrfa
golyguYn 1885 penodwyd Planck yn athro cyswllt (heb gadair) ym maes Ffiseg Damcaniaethol yn Göttingen. Yn 1889 fe'i penodwyd yn athro (gyda chadair) yn Berlin.
Darganfyddiadau ffiseg
golyguYn 1900 darganfu Planck ddeddfau pelydriad thermol a thrwy'r gwaith hwnnw lluniodd y ddamcaniaeth cwantwm. Derbyniodd y Wobr Nobel ar gyfer Ffiseg yn 1918 ar sail ei waith ar y ddamcaniaeth cwantwm. Bu'n meithrin doniau Albert Einstein, gan ddechrau yn 1905, ond yn wahanol i Einstein, arhosodd yn yr Almaen yn ystod cyfnod y Natsïaid.
Manylion personol
golyguPriododd Planck ddwywaith. Cafodd 5 o blant ond bu tri ohonynt farw'n ifainc. Bu farw Planck o'r diciâu yn Göttingen.