Rowland Williams (diwinydd)
Roedd y Parchedig Athro Rowland Williams (16 Awst 1817 – 18 Ionawr 1870) yn is-brifathro ac athro Hebraeg Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan o 1849 hyd 1862. Ystyrid ef yn un o ddiwinyddion mwyaf dylanwadol y 19g. Roedd hefyd yn fardd a gyhoeddai dan ei enw barddol Goronva Camlann. Roedd yn frodor o Helygain yn Sir y Fflint.
Rowland Williams | |
---|---|
Ganwyd | 16 Awst 1817 Helygain |
Bu farw | 1870 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd |
Diwinydd
golyguWedi iddo gyhoeddi Essays and Reviews yn 1860, lle beirniadodd wrthwynebwyr y feirniadath Feiblaidd newydd oedd yn dod o'r Almaen, rhoddwyd ef ar ei brawf o flaen llys eglwysig am heresi a'i gael yn euog. Fodd bynnag, newidiwyd y ddedfryd pan apeliodd i'r Cyfrin Gyngor.
Bardd
golyguCyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth Saesneg ar themâu Cymreig dan yr enw barddol 'Goronva Camlann', yn cynnwys Lays from the Cimbric Lyre (1846). Mae'r cerddi hyn yn mynegi dicter yr awdur at y sarhad cyson a nawddoglyd ar y Cymry gan rhai Saeson cyfoes (dyma gyfnod Brad y Llyfrau Gleision) ac yn pwysleisio hynafiaeth y Cymry a'u diwylliant yn ynysoedd Prydain.[1]
Etifeddiaeth
golyguYstyrir mai ef oedd y person cyntaf i ddod a rygbi'r undeb i Gymru; y tîm a ffurfiodd ef yn Llambed oedd y cyntaf y gwyddir amdano yng Nghymru.[angen ffynhonnell]
Agorodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ganolfan ymchwil newydd yn Llambed yn 2005 sydd wedi ei henwi ar ôl Rowland Williams.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).