Seamus Heaney
Bardd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd Seamus Justin Heaney (13 Ebrill 1939 – 30 Awst 2013).[1]
Seamus Heaney | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1939 Castledawson |
Bu farw | 30 Awst 2013 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, cyfieithydd, ieithydd, bardd, llenor, academydd, actor, awdur |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Death of a Naturalist, District and Circle, Human Chain |
Arddull | barddoniaeth |
Prif ddylanwad | Dante Alighieri, Derek Mahon, Wilfred Owen, Robert Frost, Fyrsil, John Montague, John Millington Synge, Herbert McCabe, William Butler Yeats, T. S. Eliot, William Wordsworth, Geoffrey Chaucer, Patrick Kavanagh, George Gordon Byron, Rainer Maria Rilke, Samuel Palmer, William Shakespeare, John Keats, Czesław Miłosz |
Tad | Patrick Heaney |
Mam | Margaret Kathleen Mccann |
Priod | Marie Devlin |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Cholmondeley, Geoffrey Faber Memorial Prize, Gwobr Eric Gregory, Gwobr PEN Iwerddon, T. S. Eliot Prize, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr E. M. Forster, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr James Joyce, Gwobr Sikkens, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary doctorate of the University of La Coruña, Ulysses Medal, Duff Cooper Prize, Poetry Now Award, Poetry Now Award, David Cohen Prize, Irish Book Awards, Griffin Poetry Prize, Forward Poetry Prize, PEN Translation Prize, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Llyfrau Costa, Truman Capote Award for Literary Criticism, People of the Year Awards, Lannan Literary Awards, Golden Rose Award, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Lenyddol WH Smith, Flaiano Prize, AWB Vincent Literary Award, AWB Vincent Literary Award, Cunningham Medal, Torch Aur, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Member of the Royal Irish Academy, Medal Bodley, Horst-Bienek-Preis für Lyrik, honorary doctor of the Sorbonne Nouvelle University, honorary doctor of Caen University |
llofnod | |
Ganed Heaney ger Castledawson yng Ngogledd Iwerddon, yr hynaf o naw o blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg St Columb, lle dysgodd Wyddeleg, yna mewn ysgol breswyl Gatholig yn Derry. Yn 1957 aeth i Brifysgol Queens, Belffast i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, cyn hyfforddi fel athro. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Eleven Poems, ym 1965. Ym 1976 symudodd i Ddulyn i ddysgu yng Ngholeg Carysfort.
Ym 1995 dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo.
Ar ei farwolaeth yn 2013, roedd gwerthiant ei lyfrau'n ddau-draean o gyfanswm llyfrau beirdd cyfoes gwledydd Prydain. [2] Mae ei waith yn ymwneud ag Iwerddon, yn enwedig Gogledd Iwerddon, ble'i ganwyd. Pan soniodd am ei blentyndod un tro, dywedodd: "I learned that my local County Derry experience, which I had considered archaic and irrelevant to 'the modern world' was to be trusted. They taught me that trust and helped me to articulate it."[3] Mae ei ddwy gyfrol Death of a Naturalist (1966) a Door into the Dark (1969) yn ddisgrifiadau o fywyd pob dydd ei filltir sgwar.[3]
Beirniadaeth
golyguDisgrifiodd Robert Pinsky Heaney gan ddweud, "with his wonderful gift of eye and ear Heaney has the gift of the story-teller".[4] Galwodd Robert Lowell ef "the most important Irish poet since Yeats" a chafwyd sylwadau tebyg gan nifer o feirniaid llenyddol gan gynnwys yr awdur John Sutherland pan ddywedodd mai Heaney oedd "the greatest poet of our age".[2] Ar ei farwolaeth yn Awst 2013 disgrifiwyd ef yn yr Independent fel "probably the best-known poet in the world".[5]
Cyhoeddiadau
golyguCyfrolau o Farddoniaeth
golygu- Death of a Naturalist, Faber & Faber
- Door into the Dark, Faber & Faber
- Wintering Out, Faber & Faber
- Stations, Ulsterman Publications
- North, Faber & Faber
- Field Work, Faber & Faber
- Station Island, Faber & Faber
- The Haw Lantern, Faber & Faber
- Seeing Things, Faber & Faber
- The Spirit Level Faber & Faber
- Electric Light, Faber & Faber
- District and Circle, Faber & Faber
Casgliadau o farddoniaeth
golygu- Selected Poems 1965-1975, Faber & Faber (1980)
- New Selected Poems 1966-1987, Faber & Faber (1990)
- Opened Ground: Poems 1966-1996, Faber & Faber (1998)
Opera
golygu- The Burial at Thebes 2004 drama gan Seamus Heaney a seilwyd ar Antigone, 1942 drama gan Jean Anouilh (1910-1987)
- The Burial At Thebes (2008) opera gan Dominique Le Gendre i libretto gan Seamus Heaney a Derek Walcott
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Poet Seamus Heaney dies aged 74 Gwefan BBC News. 30 Awst 2013
- ↑ 2.0 2.1 Sutherland, John (19 Mawrth 2009). "Seamus Heaney deserves a lot more than £40,000". The Guardian. Guardian Media Group. Cyrchwyd 19 Ebrill 2010.
- ↑ 3.0 3.1 "Biography". Poetry Foundation.
- ↑ Pinsky, Robert Poetry and The World The Eco Press Hopewell ISBN 088001217X
- ↑ Craig, Patricia (30 Awst 2013). "Seamus Heaney obituary: Nobel Prize-winning Irish Poet". The Independent. Independent Print Limited. Cyrchwyd 30 Awst 2013.