Hibatullah Akhundzada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
gwybodlen Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy |image=Mawlawi Hibatullah Akhundzada.jpg |caption=Hibatullah Akhundzada }} |
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy |image=Mawlawi Hibatullah Akhundzada.jpg |caption=Hibatullah Akhundzada }} |
||
Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o [[Affganistan]] yw '''Mawlawi Hibatullah Akhundzada''' (ganed [[1961]]) sydd yn arweinydd [[y Taleban]] ers 2016 ac yn Emir Affganistan ers 2021. |
Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o [[Affganistan]] yw '''Mawlawi Hibatullah Akhundzada''' (ganed [[7 Mehefin]] [[1961]]) sydd yn arweinydd [[y Taleban]] ers 2016 ac yn Emir Affganistan ers 2021. |
||
Mae Hibatullah Akhundzada yn hanu o ddosbarth Panjwai yn nhalaith [[Kandahar (talaith)|Kandahar]] ac yn perthyn i'r Nurzai, un o lwythau'r [[Pashtun]]. Pregethwr oedd ei dad. Ymfudodd ei deulu i [[Pacistan|Bacistan]] yn sgil dechrau [[Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan]] ym 1979.<ref name=NYT-New/> |
Mae Hibatullah Akhundzada yn hanu o ddosbarth Panjwai yn nhalaith [[Kandahar (talaith)|Kandahar]] ac yn perthyn i'r Nurzai, un o lwythau'r [[Pashtun]]. Pregethwr oedd ei dad. Ymfudodd ei deulu i [[Pacistan|Bacistan]] yn sgil dechrau [[Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan]] ym 1979.<ref name=NYT-New/> |
Fersiwn yn ôl 08:34, 2 Hydref 2021
Hibatullah Akhundzada | |
---|---|
Delwedd:Mawlawi Hibatullah Akhundzada.jpg Hibatullah Akhundzada | |
Ganwyd | c. 1960 Panjwā'ī |
Dinasyddiaeth | Affganistan |
Galwedigaeth | gwladweinydd, Ysgolhaig Islamaidd, llywodraethwr, arweinydd crefyddol, Islamic jurist |
Swydd | Amir al-Mu'minin of the Taliban, Supreme Leader of Afghanistan |
Plaid Wleidyddol | Y Taliban |
Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o Affganistan yw Mawlawi Hibatullah Akhundzada (ganed 7 Mehefin 1961) sydd yn arweinydd y Taleban ers 2016 ac yn Emir Affganistan ers 2021.
Mae Hibatullah Akhundzada yn hanu o ddosbarth Panjwai yn nhalaith Kandahar ac yn perthyn i'r Nurzai, un o lwythau'r Pashtun. Pregethwr oedd ei dad. Ymfudodd ei deulu i Bacistan yn sgil dechrau Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ym 1979.[1]
Ymunodd Akhundzada â gwrthryfelwyr y mujahideen yn erbyn y lluoedd Sofietaidd. Yn sgil enciliad y Sofietiaid, daeth yn gyfarwydd fel arweinydd crefyddol yn hytrach na chadlywydd. Ym 1994, yn ystod y rhyfel cartref rhwng y Jamiat-e Islami a grwpiau eraill y cyn-mujahideen, ymunodd Akhundzada â'r Taleban a fe oruchwyliai y llysoedd sharia. Yn sgil gorchfygiad Affganistan gan y Taleban, daeth yn un o brif farnwyr y wlad. Wedi cwymp y Taleban yn 2001, arweiniai Akhundzada criw o ysgolheigion Islamaidd yn y Taleban ar ffo, a chyhoeddodd sawl ffatwa.
Gwasanaethodd yn ddirprwy i'r Mylah Akhtar Mansour, a fu'n arweinydd y Taleban o Orffennaf 2015 hyd at ei ladd gan gyrch drôn ym Mhacistan ym Mai 2016. Rhyw ddyddiau'n ddiweddarach, etholwyd Akhundzada i olynu Mansour gan gyngor arweinyddiaeth a chlerigiaeth y Taleban. Ffigur anadnabyddus ac annisgwyl oedd Akhundzada, ac mae'n debyg iddo gael ei ddewis er mwyn osgoi rhwyg rhwng cefnogwyr y ddau brif ddewis, Sirajuddin Haqqani a Muhammad Yaqoub.[1]
Yn sgil ymgyrch lwyddiannus y Taleban i orchfygu Affganistan yn 2021, cyhoeddwyd Hibatyllah Akhundzada yn bennaeth ar y llywodraeth newydd ac yn Emir Affganistan. Mae'n debyg ei fod mewn cyswllt agos ag arweinwyr eraill y Taleban sydd wedi ymsefydlu yn Quetta, Pacistan.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Mujib Mashal, Taimoor Shah a Zahra Nader, "Taliban Name Lesser-Known Cleric as Their New Leader", The New York Times (25 Mai 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Medi 2021.