(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Calais: Gwahaniaeth rhwng fersiynau - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Calais: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: sco:Calais
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:کَلِی (شهر)
Llinell 38: Llinell 38:
[[et:Calais]]
[[et:Calais]]
[[eu:Calais]]
[[eu:Calais]]
[[fa:کَلِی (شهر)]]
[[fi:Calais]]
[[fi:Calais]]
[[fr:Calais]]
[[fr:Calais]]

Fersiwn yn ôl 18:50, 21 Mawrth 2012

Pier Calais

Porthladd, dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc, sous-préfecture yn département Pas-de-Calais a'i dinas fwyaf, yw Calais. Datblygodd yn un o'r borthladdoedd pwysicaf y Môr Udd am ei bod yn gorwedd ar y llwybr byrraf dros y Sianel rhwng Ffrainc a Lloegr (34 km / 21 milltir). Mae gan y gymuned (sef y ddinas) boblogaeth o 77,333 (1999) neu 125,584 am yr ardal fetropolaidd (aire urbaine).

Yn y Rhyfel Can Mlynedd cafodd ei gwarchae a'i chipio gan y Saeson dan Edward III yn 1346 ac arhosodd yn nwylo'r Saeson fel eu troedle olaf yn Ffrainc hyd at 1558 pan gipiwyd y dref yn ôl gan y Ffrancod dan François de Guise. Gwasanaethodd yr hanesydd Cymreig Elis Gruffydd, awdur Cronicl Chwech Oes y Byd, sy'n cynnwys Hanes Taliesin, yng ngarsiwn Calais am gyfnodau rhwng 1529 a 1552. Cafodd Calais ei bomio'n drwm yn yr Ail Ryfel Byd wrth i luoedd Prydain geisio amddiffyn y milwyr a oedd yn ceisio ffoi i Loegr o Dunkerque.

Mae llongau fferi yn hwylio'n rheolaidd rhwng Dofr a Chalais. 6 km y tu allan i'r dref ceir terminws Ffrengig Twnel y Sianel.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Neuadd y Dinas
  • Les Bourgeois de Calais
  • Tour de Guet

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.