(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Helena o Gaergystennin - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Helena o Gaergystennin

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:51, 26 Chwefror 2012 gan WikitanvirBot (sgwrs | cyfraniadau)
Helena a'i mab Cystennin Fawr.

Gwraig yr ymerawdwr Rhufeinig Constantius Chlorus a mam yr ymerawdwr Cystennin Fawr oedd Flavia Iulia Helena Augusta neu Helena o Gaergystennin (tua 250 – tua 330).

Credir ei bod yn enedigol o Drepanum, a dywedir fod ei thad yn cadw gwesty. Ysgarodd Constantius Chlorus hi tua 289 er mwyn priodi Theodora, llysferch Maximianus. Pan ddaeth ei mab Cystennin yn ymerawdwr, rhoddwyd y teitl "Augusta" iddi. Dywedir iddi fynd ar bererindod i Jeriwsalem a darganfod rhan o'r groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni. Ystyrir hi yn sant gan yr Eglwys Uniongred a'r Eglwys Gatholig. Hi yw nawdd-santes archaeolegwyr.

Credir fod cymeriad Elen Luyddog yn y chwedl Gymreig Breuddwyd Macsen Wledig wedi ei seilio yn rhannol ar Helena. Ymddengys hefyd fel cymeriad yng ngwaith Sieffre o Fynwy.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol