Elihu Yale
Gwedd
Ganwyd Elihu Yale (5 Ebrill, 1649 – 8 Gorffennaf, 1721) yn Boston, Massachusetts, UDA ac roedd yn ddyn busnes llwyddiannus iawn; rhoddwyd ei enw ar Brifysgol Iâl (Yale University). O ffermdy Plas yn Iâl, Llandegla, Dyffryn Clwyd y deuai ei rieni. Roedd hefyd yn un o berchnogion y British East India Company ac yn ddyngarwr amlwg.
Bu'n gweithio am flynyddoedd yn Madras, India a gwrthwynebai'r defnydd o blant fel caethweision.
Fe'i claddwyd yn Eglwys St Giles, Wrecsam.