(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Brwydr Pont Stirling - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Brwydr Pont Stirling

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 04:43, 5 Mai 2012 gan WikitanvirBot (sgwrs | cyfraniadau)
Pont bresennol Stirling.

Ymladdwyd Brwydr Pont Stirling Bridge ar 11 Medi, 1297, rhwng byddin Albanaidd dan William Wallace ac Andrew de Moray a byddin Seisnig dan John de Warenne, 7fed Iarll Surrey a Hugh de Cressingham. Ymladdwyd y frwydr ger y bont sy'n croesi Afon Forth ger Stirling.

Roedd Surrey wedi ennill brwydr yn erbyn uchelwyr yr Alban ym Mrwydr Dunbar, ac efallai'n or-hyderus. Dechreuodd y fyddin Seisnig, oedd yn cynnwys llawer o Gymry, groesi'r bont gul; dim ond day farchog allai groesi ar y tro. Disgwyliai'r fyddin Albanaidd ar dir uwch, a phan oedd ychydig dros 5,000 o'r fyddin Seisnig wedi croesi, ymosodasant. Llwyddodd rhai o'r gwŷr traed i nofio ar draws yr afon i ddiogelwch, ond nid oedd fawr o obaith i'r marchogion. Lladdwyd dros gant ohonynt, yn cynnwys Hugh de Cressingham. Blingwyd corff Cressingham a gyrrwyd rhannau o'i groen yma ac acw fel prawf o'r fuddugoliaeth.

Ni allai Surrey a'r gweddill o'r fyddin gynorthwyo, ac enciliodd i gyfeiriad Berwick, gan adael Iseldiroedd yr Alban yn nwylo Wallace. Clwyfwyd Andrew de Moray, a bu farw o'i glwyfau yn ddiweddarch.