(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Jean-Jacques Rousseau - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Jean-Jacques Rousseau

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:08, 10 Mawrth 2013 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau)
Jean-Jacques Rousseau

Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin, 1712 - 2 Gorffennaf, 1778).

Cafodd ei eni yn Geneva. Daeth yn ffrind i Denis Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod.

Gwaith Rousseau

Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).

Wynebddalen Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes gan Jean-Jacques Rousseau (1755)

Links