Kathleen Cavendish
Gwedd
Kathleen Cavendish | |
---|---|
Kennedy ym 1944 | |
Ganwyd | Kathleen Agnes Kennedy Chwefror 20, 1920 Brookline, Massachusetts, U.S. |
Bu farw | Mai 13, 1948 Saint-Bauzile, Ardèche, Ffrainc | (28 oed)
Achos marwolaeth | Damwain awyrennu |
Man gorwedd | Eglwys Sant Pedr, Edensor, Derbyshire, Lloegr |
Cartref | Llundain |
Addysg | Ysgol Riverdale Lleiandy Noroton y Galon Sanctaidd Lleiandy'r Plentyn Sanctaidd |
Alma mater | Coleg y Frenhines, Llundain Coleg Finch Florida Commercial College |
Priod | William Cavendish, Marquess of Hartington (pr. 1944–44) |
Rhieni | Joseph P. Kennedy, Sr. Rose Kennedy |
Perthnasau | Teulu Kennedy |
Roedd Kathleen Agnes Cavendish, Ardalyddes Hartington (née Kennedy; 20 Chwefror 1920 – 13 Mai 1948), neu "Kick" Kennedy,[1][2] merch y diplomydd Joseph P. Kennedy, Sr. a'i wraig Rose Kennedy, chwaer John F. Kennedy, a wraig William Cavendish, Marquess of Hartington, mab y Dug Devonshire.
Priododd Arglwydd Hartington ym mis Mai 1944. Lladdwyd ef ar wasanaeth gweithredol yng Ngwlad Belg bedwar mis yn ddiweddarach. Bu farw Kathleen mewn damwain awyren ym 1948, gyda'i cariad newydd Peter Wentworth-Fitzwilliam, 8ydd Iarll Fitzwilliam.
Cyfeiriadau
- ↑ McAfee, Tierney; McNeil, Liz (April 13, 2016). "The Untold Story of Kathleen 'Kick' Kennedy, Who Defied Her Parents and Died in a Tragic Plane Crash with Her Married Lover". People. Cyrchwyd September 13, 2016.
- ↑ Heil, Emily (11 July 2016). "New Kick Kennedy bio recounts her father's affairs with Hollywood actresses". The Washington Post. Cyrchwyd 13 September 2016.