Hibatullah Akhundzada
Hibatullah Akhundzada | |
---|---|
Ganwyd | c. 1960 Panjwā'ī |
Dinasyddiaeth | Affganistan |
Galwedigaeth | gwladweinydd, Ysgolhaig Islamaidd, llywodraethwr, arweinydd crefyddol, Islamic jurist |
Swydd | Amir al-Mu'minin of the Taliban, Supreme Leader of Afghanistan |
Plaid Wleidyddol | Y Taliban |
Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o Affganistan yw Mawlawi Hibatullah Akhundzada (ganed 7 Mehefin 1961) sydd yn arweinydd y Taliban ers 2016 ac yn Emir Affganistan ers 2021.
Mae Hibatullah Akhundzada yn hanu o ddosbarth Panjwai yn nhalaith Kandahar ac yn perthyn i'r Nurzai, un o lwythau'r Pashtun. Pregethwr oedd ei dad. Ymfudodd ei deulu i Bacistan yn sgil dechrau Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ym 1979.[1]
Ymunodd Akhundzada â gwrthryfelwyr y mujahideen yn erbyn y lluoedd Sofietaidd. Yn sgil enciliad y Sofietiaid, daeth yn gyfarwydd fel arweinydd crefyddol yn hytrach na chadlywydd. Ym 1994, yn ystod y rhyfel cartref rhwng y Jamiat-e Islami a grwpiau eraill y cyn-mujahideen, ymunodd Akhundzada â'r Taliban a fe oruchwyliai y llysoedd sharia. Yn sgil gorchfygiad Affganistan gan y Taliban, daeth yn un o brif farnwyr y wlad. Wedi cwymp y Taliban yn 2001, arweiniai Akhundzada criw o ysgolheigion Islamaidd yn y Taliban ar ffo, a chyhoeddodd sawl ffatwa.
Gwasanaethodd yn ddirprwy i'r Mylah Akhtar Mansour, a fu'n arweinydd y Taliban o Orffennaf 2015 hyd at ei ladd gan gyrch drôn ym Mhacistan ym Mai 2016. Rhyw ddyddiau'n ddiweddarach, etholwyd Akhundzada i olynu Mansour gan gyngor arweinyddiaeth a chlerigiaeth y Taliban. Ffigur anadnabyddus ac annisgwyl oedd Akhundzada, ac mae'n debyg iddo gael ei ddewis er mwyn osgoi rhwyg rhwng cefnogwyr y ddau brif ddewis, Sirajuddin Haqqani a Muhammad Yaqoub.[1]
Yn sgil ymgyrch lwyddiannus y Taliban i orchfygu Affganistan yn 2021, cyhoeddwyd Hibatyllah Akhundzada yn bennaeth ar y llywodraeth newydd ac yn Emir Affganistan. Mae'n debyg ei fod mewn cyswllt agos ag arweinwyr eraill y Taliban sydd wedi ymsefydlu yn Quetta, Pacistan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Mujib Mashal, Taimoor Shah a Zahra Nader, "Taliban Name Lesser-Known Cleric as Their New Leader", The New York Times (25 Mai 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Medi 2021.