Edward Morus Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 44: Llinell 44:
* '''Rhywbeth Syml''' [[Mary Hopkin]] ac Edward [[Recordiau Cambrian]] CEP 420 [[1968]] cyfieithiad o gân ''Something Stupid'' gan Carson and Gaile.<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/watch?v=Gr4SpaaQz1g |title=Rhywbeth Syml |publisher=Mary ac Edward, Mary Hopkin Caneuon Cynnar |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>
* '''Rhywbeth Syml''' [[Mary Hopkin]] ac Edward [[Recordiau Cambrian]] CEP 420 [[1968]] cyfieithiad o gân ''Something Stupid'' gan Carson and Gaile.<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/watch?v=Gr4SpaaQz1g |title=Rhywbeth Syml |publisher=Mary ac Edward, Mary Hopkin Caneuon Cynnar |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>
* '''Seinier Cyrn, a Chaner Clych!''' EP gyda Dafydd Iwan ac Edward [[Welsh Teldisc]] [[1968]] oddi ar record '''Nadolig Llawen''', cyfieithiad o gân ''Mary's Born Child'' gan The De Paur Chorus
* '''Seinier Cyrn, a Chaner Clych!''' EP gyda Dafydd Iwan ac Edward [[Welsh Teldisc]] [[1968]] oddi ar record '''Nadolig Llawen''', cyfieithiad o gân ''Mary's Born Child'' gan The De Paur Chorus

==Albymau i blant==
*'''Fuoch chi 'rioed yn Morio?''' Albwm [[Llyfr llafar|llyfr llafar]] o straeon i blant gyda [[Dafydd Iwan]] [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] 1005D [[1973]]. <ref>{{cite web |url=https://www.discogs.com/release/3174499-Dafydd-Iwan-ac-Edward-Fuoch-Chi-Rioed-Yn-Morio |title=Fuoch chi 'rioed yn morio |publisher=Gwefan Disgos (Sain – SAIN 1005D) |access-date=24 Ebrill 2023}}</ref>
*'''Fuoch chi 'rioed yn Morio?''' Albwm [[Llyfr llafar|llyfr llafar]] o straeon i blant gyda [[Dafydd Iwan]] [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] 1005D [[1973]]. <ref>{{cite web |url=https://www.discogs.com/release/3174499-Dafydd-Iwan-ac-Edward-Fuoch-Chi-Rioed-Yn-Morio |title=Fuoch chi 'rioed yn morio |publisher=Gwefan Disgos (Sain – SAIN 1005D) |access-date=24 Ebrill 2023}}</ref>
*'''[[Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]]''' Albwm o 35 cân [[Cwmni Recordio Sain|Sain]] SCD2090 [[1994]]. Gweler: [[Rhestr o ganeuon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]] Albwm [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] SCD2090 [[1994]].<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/playlist?list=OLAK5uy_l2UOAkpGUwuskTxSZrlkK3GANWODxVcAU |title=Cwm-Rhyd-y-Rhosyn |publisher=Youtube |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>
*'''[[Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]]''' Albwm o 35 cân [[Cwmni Recordio Sain|Sain]] SCD2090 [[1994]]. Gweler: [[Rhestr o ganeuon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]] Albwm [[Cwmni== Recordiau Sain|Sain]] SCD2090 [[1994]].<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/playlist?list=OLAK5uy_l2UOAkpGUwuskTxSZrlkK3GANWODxVcAU |title=Cwm-Rhyd-y-Rhosyn |publisher=Youtube |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>
* '''[[Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]] 2 ail albwm gan [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] SCD2452 [[2004]]<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/playlist?list=OLAK5uy_lZdNVzbuA0av2lPZhHNLGv7w-oGvaTv3E |title=Cwm-Rhyd-y-Rhosyn 2 |publisher=Youtube |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>
* '''[[Cwm-Rhyd-y-Rhosyn]] 2 ail albwm gan [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]] SCD2452 [[2004]]<ref>{{cite web |url=https://www.youtube.com/playlist?list=OLAK5uy_lZdNVzbuA0av2lPZhHNLGv7w-oGvaTv3E |title=Cwm-Rhyd-y-Rhosyn 2 |publisher=Youtube |access-date=19 Ebrill 2024}}</ref>



Fersiwn yn ôl 07:59, 7 Mai 2024

Edward Morus Jones
Ganwyd22 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathro, canwr Edit this on Wikidata
ArddullPop Cymraeg, Canu gwerin Edit this on Wikidata
PlantRhun ap Iorwerth Edit this on Wikidata

Mae Edward Morus Jones (sillafiad bedydd, Edward Morris Jones; ganed mis 22 Mai 1944[1]) yn berfformiwr ac athro ddaeth yn adnabyddus yn yr 1960au wrth ganu deuawd gyda Dafydd Iwan. Bu i'r ddau recordio nifer o ganeuon protest a adnabyddus iawn a hefyd recordio record hir o ganeuon digri a hwiangerddi i blant bach ar ddau albwm Cwm-Rhyd-y-Rhosyn. Bu'n athro ac yn ymgyrchydd dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.

Cefndir

Edward Morus Jones (de) gyda Dirprwy Lywydd Senedd Cymru ar y pryd, David Melding, a Dr Carl Clowes yn Nant Gwrtheyrn 30 Medi 2012

Mab fferm yw Edward Morus Jones a aned yn Llanuwchllyn, ger y Bala ac astudiodd yn Ysgol y Bechgyn y Bala a'r Coleg Normal ym Mangor.[2] Derbyniodd Edward a’i ddiweddar wraig Gwyneth, a gyfrannodd lawer hefyd i fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru, gydnabyddiaeth unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Dyma’r unig dro i ŵr a gwraig gael eu harwisgo ar yr un diwrnod ag Urdd Gwisg Wen Gorsedd y Beirdd, ei huchaf anrhydedd. Yn 2016 priododd Edward â Mary Roberts Glassman Jones.

Darganfu ei angerdd fel addysgwr yn gynnar yn ei fywyd gan ddysgu mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch mewn sawl lleoliad yng Ngogledd a De Cymru.[3]

Mae'n dad i Aelod Senedd Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r darlithydd meddygaeth a lladmerydd dros addysg feddygol yn y Gymraeg, Awen Iorwerth.[4]

Mae’r cysylltiad trawsatlantig ym mywyd Edward wedi’i wella’n fawr gan ei briodas â Mary Roberts Glassman yn 2016. Mae ganddi wreiddiau Crynwyr yn y 1600au yng Nghymru, dim ond deng milltir o’r man lle magwyd Edward.[3]

Cerddoriaeth

Un o'i gyfraniadau bwysicaf oedd recordio, gyda Dafydd Iwan, record o gerddoriaeth plant gyda’r caneuon a recordiwyd ar gyfer cyfres “Cwm Rhyd y Rhosyn”.

Mae wedi arwain llawer o Gymanfaoedd Canu dros y blynyddoedd.

Mae'n gadeirydd Eisteddfod y Goron Llandegfan. Enghraifft yw fideo hyfryd o’i arwain plant Ysgol Henblas leol, “Canu Gyda Mr. Edward Morus Jones".

Mae Edward (gyda Gwyneth tan 2012) wedi cymryd rhan mewn deg Gŵyl Gogledd America Cymru (NAFOW).

Disgyddiaeth

Bu Edward Morus Jones yn perfformio dros ddegawdau, yn fwyaf enwog gyda Dafydd Iwan ond hefyd ar ben ei hun a gydag artistiaid eraill o bryd i'w gilydd fel Mary Hopkin. Noder mai dan yr enw Edward Morris Jones y cofnodwyd y mwyafrif helaeth o'r caneuon yma.[5]

Fel Deuawd Dafydd Iwan ac Edward

  • Wrth Feddwl Am Fy Nghymru / Wyt Ti'n Cofio? Dafydd Iwan ag Edward - Welsh Teldisc TEP 861 1966
Caneuon: A1: Wrth Feddwl Am Fy Nghymru, B1: Bryniau Afallon, B2 Meddwl Amanat Ti.
  • Mae'n Wlad i Mi Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc TEP864 1966, Mae'n Wlad I Mi, Gee Ceffyl Bach
Caneuon: A1: Mae'n Wlad I Mi, A2 Gee Ceffyl Bach. B1 Crwydro, B2 Mae'r Esgid fach yn Gwasgu.
  • Clyw Fy Nghri! / Mae Geneth Fach Yng Nghymru Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc TEP866 1967
Caneuon: A1 Clyw Fy Nghri!, A2 Mae Geneth… |1 Rhaid Yw Dal Yn Ffyddlon, B2 Paid A Chwarae Efo'm Serch B3 Tyrd yn ddi-oed.
Caneuon: A1 A Chofiwn Ei Eni Ef, A2 Mair, Paid Ag Wylo Mwy B1 Seinier Cyrn, A Chaner Clych! B2 Nos Ym Methlehem.

Caneuon sy'n gyfieithiadau

Albymau i blant

Record Sengl

  • Aros, Edrych, Gwrando ! / Ar Y Beic Sengl 7" i hybu diogelwch ffyrdd gan Gyngor Gwynedd, Edward Morris Jones Recordiau Tryfan (is-label o Sain) TRF 103 S 1975
Caneuon: A1 Aros, Edrych, Gwrando!, A2 Ar Y Beic.B1 Heibio Drws Ein Tŷ Ni, B2 Mr Lolipop.[5]

Cyfeiriadau

  1. "Edward Morus Jones". Second Hand Store. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  2. "Edward Morus Jones". Tudalen Facebook Edward Morus Jones. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  3. 3.0 3.1 "Edward Morus Jones Receives the North America Wales Foundation Heritage Medallion". Gwefan North America Wales Foundation. 2 Medi 2022.
  4. "Beti a'i Phobl Awen Iorwerth". BBC Radio Cymru. 3 Mehefin 2018. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  5. 5.0 5.1 "Edward Morris Jones". 45Cat. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  6. "Mae'n Wlad i Mi". Youtube Noson Lawen. 2013.
  7. "Rhywbeth Syml". Mary ac Edward, Mary Hopkin Caneuon Cynnar. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  8. "Fuoch chi 'rioed yn morio". Gwefan Disgos (Sain – SAIN 1005D). Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.
  9. "Cwm-Rhyd-y-Rhosyn". Youtube. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
  10. "Cwm-Rhyd-y-Rhosyn 2". Youtube. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato