Aled Roberts
Aled Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1962 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 13 Chwefror 2022 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, Comisiynydd y Gymraeg, cyfreithiwr |
Swydd | Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol |
Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd Aled Roberts (17 Mai 1962 – 13 Chwefror 2022). Roedd yn aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y fwrdeistref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.[1] Roedd yn Aelod o'r Cynulliad dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 6 Mai 2011 a 6 Mai 2016. Roedd hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg. Fe'i benodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg yn 2019.
Gyrfa gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Wrecsam yn 1991, gan gynrychioli ward Rhosllannerchrugog a Phonciau. Ef oedd Maer Wrecsam yn 2003-2004. Fis Mawrth 2005, daeth yn arweinydd Cyngor Sir Wrecsam wedi i'w ragflaenydd Neil Rogers (aelod o'r Blaid Lafur) ymddeol.[2]
Cafodd ei ethol i Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) yn etholiadau 2011. Yn fuan wedi iddo gael ei ethol, daeth i'r amlwg ei fod yn aelod o Dribiwnlys Prisio Cymru - corff nad oedd gan Aelodau'r Cynulliad yr hawl i fod yn rhan ohono ers 2010.[3] Cafodd ei ddiarddel. Roedd Aled Roberts wedi cyfeirio at ganllawiau'r Comisiwn Etholiadol yn Gymraeg, ond roedd y Comisiwn wedi methu â diweddaru'r fersiwn Cymraeg i gynnwys y Tribiwnlys Prisio.[4][5] Ar 6 Gorffennaf 2011, cynhaliwyd pleidlais i'w adfer i'r Cynulliad: y canlyniad oedd 30 o blaid, 20 yn erbyn, a 3 yn ymatal, felly cafod ei adfer yn Aelod Cynulliad[6]. Ni chafodd John Dixon, aelod arall a gafodd ei wahardd ar yr un pryd, ei adfer, ac fe gafodd Eluned Parrot ei chyfethol yn ei le - roedd statws canllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol yn ganolog i'r penderfyniad yn achos Aled Roberts.
Collodd ei sedd yn Etholiad y Cynulliad 2016.
Comisiynydd y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Ar 1 Ebrill 2019, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddilyn Meri Huws. Treuliodd y tri mis cyntaf yn dod i adnabod anghenion Cymry ledled y wlad, er mwyn deall eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg ac i ddeall beth sy'n cymell pobl sy'n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio'r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.
“ | Fe ges i fy magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg. Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni'n ei siarad efo'n gilydd. Nid tan imi ddod adref am y Nadolig ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni'n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo'n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo'n gilydd o hynny ymlaen. Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi'n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo'n gilydd byth wedyn.[7] | ” |
Bywyd personol a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Magwyd Aled yn Rhosllannerchrugog ac roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ddau fab. Mynychodd Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd yn cymryd rhan weithgar yn ei gymuned, gan fod yn ysgrifennydd Capel Ebeneser a'r Stiwt.[8]
Bu farw ar 13 Chwefror 2022 yn 59 mlwydd oed ar ôl salwch byr.[9] Cafodd teyrngedau iddo ar draws llawr y Senedd, gan Gymdeithas yr iaith, ei gydweithwyr a'i ffrindiau.[10]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Yn dilyn marwolaeth Aled Roberts o ganser yn 2022, bu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ac elusen Macmillan dderbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg. Ar 14 Mai 2024 cyhoeddodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan, bod y Gronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw Aled Roberts er mwyn hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg.[11]
Pecyn Iaith Aled Roberts
[golygu | golygu cod]Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.
Galluogodd y gronfa i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.
Bydd hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.[12]
Tlws Coffa Aled Roberts
[golygu | golygu cod]Yn dilyn marwolaeth cynamserol Aled, sefydlwyd Tlws Coffa Aled Roberts i gydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg. Enillydd cyntaf y Tlws oedd Gwilym Roberts o Gaerdydd am ei waith yn dysgu Cymraeg yn y brifddinas a thu hwnts ers degawdau.[12][13]
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Aled Roberts tudalen Aled ar wefan Senedd Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi marw yn 59 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2022.
- ↑ "Meeting of Council on Wednesday, 9th March, 2005". moderngov.wrexham.gov.uk (yn Saesneg). 2005-03-09. Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ "Atal dau AC – tros broblem 'dechnegol'". Golwg360. 2011-05-17. Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ "Aled Roberts wedi gwneud 'popeth o fewn ei allu'". Golwg360. 2011-07-05. Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ "Adferwch Aled Roberts ac ymddiheurwch | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg". cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2024-06-09.
- ↑ "https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=153&MId=342&Ver=4". Senedd Cymru. 6 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 9 Mehefin 2024. External link in
|title=
(help) - ↑ comisiynyddygymraeg.cymru; gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2019-05-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mai 2019.
- ↑ http://www.aledroberts.org.uk/?page_id=1288 Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback Gwefan swyddogol Aled Roberts
- ↑ "Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
- ↑ "Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a "rhyddfrydwr ymroddedig"". Golwg360. 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.
- ↑ "Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw y diweddar Aled Roberts, cyn gomisiynydd y Gymraeg. Nod y gronfa yw hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg". BBC Radio Cymru. 14 Mai 2024.
- ↑ 12.0 12.1 "Cronfa goffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.
- ↑ "Gwilym Roberts o Gaerdydd yn ennill Tlws Coffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.