(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Anne Hathaway (actores) - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Anne Hathaway (actores)

Oddi ar Wicipedia
Anne Hathaway
GanwydAnne Jacqueline Hathaway Edit this on Wikidata
12 Tachwedd 1982 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, canwr, actor teledu, actor llwyfan, actor llais Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Princess Diaries, The Devil Wears Prada, The Dark Knight Rises, Rio (ffilm 2011), Rio 2 Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Taldra173 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadGerald T. Hathaway Edit this on Wikidata
MamKate McCauley Hathaway Edit this on Wikidata
PriodAdam Shulman Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hasty Pudding Woman of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Actores o'r Unol Daleithiau yw Anne Jacqueline Hathaway (ganed 12 Tachwedd 1982). Cafodd ei swydd actio gyntaf ym 1999 yn y gyfres deledu Get Real, ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yng nghomedi deuluol Disney, The Princess Diaries lle gweithiodd gyda Julie Andrews.

Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y tair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn Ella Enchanted a The Princess Diaries 2: Royal Engagement yn 2004. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel Havoc a Brokeback Mountain. Actiodd hefyd yn The Devil Wears Prada, gyda Meryl Streep; Becoming Jane, lle portreadodd Jane Austen, a Get Smart gyda Steve Carell. Yn 2008 derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rôl yn y ffilm Rachel Getting Married. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rôl, gan gynnwys enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actores Orau.

Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull Judy Garland ac Audrey Hepburn [1] ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn People Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn 2006, cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jeff Dawson. "Dressed for Success" [[The Sunday Times]] Medi 24, 2006 Adalwyd 26 Chwefror 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-11. Cyrchwyd 2009-02-26.
  2. Cylchgrawn People Adalwyd 26 Chwefror 2009