Ap (dŵr)
Enghraifft o'r canlynol | duwdod |
---|
- Gweler hefyd Ap (gwahaniaethu).
Term am yr elfen dŵr yn Sansgrit y Veda a duwies Hindŵaidd yw Ap (áp-). O'r gair Sansgrit Clasurol āpas (lluosog) daw'r gair Hindi āp. O'r un gwraidd Indo-Iranaidd daw'r gair Perseg am ddŵr, Aab; gwelir hyn yn yr enw lle Punjab (pañcāpas "pum dŵr neu afon"). Mae'n debygol hefyd fod y gair Cymraeg afon yn tarddu o'r un gwraidd.
Ceir sawl emyn i'r dyfroedd (āpas) yn y Rig Veda: 7.49, 10.9, 10.30, 10.47. yn yr hynaf o'r rhain, 7.49, cysylltir y dyfroedd hyn gyda'r ddiod ddwyfol soma a yfir gan Indra (gelwir y Soma yn napāt apām, "plentyn y dyfroedd").
Yn athroniaeth Hindŵaidd, mae ap yn cyfeirio at ddŵr fel un o'r elfennau clasurol, sef un o'r Panchamahabhuta, neu'r "pum prif elfen". Yn ogystal mae'n enw ar un o'r duwiesau (deva) sy'n gysylltiedig â dŵr.