(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Carati - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Carati

Oddi ar Wicipedia
Carati
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathcrefft ymladd, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
CrëwrKanga Sakukawa, Matsumura Sōkon, Ankō Itosu, Arakaki Seishō, Higaonna Kanryō Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Enw brodorol空手からて Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae carati[1] yn grefft ymladd a ddatblygwyd yn yr Ynysoedd Ryukyu o ddulliau ymladd brodorol a kenpō. Yn bennaf, crefft o daro ydyw gan ddefnyddio hergydio, cicio, trawiadau penglin a phenelin a technegau llaw-agored megis llaw-gyllell a llaw-grynio. Dysgir ymgodymu, cloeon, caethiwo, tafliadau a mannau allweddol i'w taro mewn rhai dulliau. Gelwir person sy'n ymarfer carati yn carateca.

Okinawa

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd carati ymysg y dosbarth pechin o'r Ryukyuans. Galwyd y system ymladd yn "ti" (neu "te"). Ar ôl i berthynasau masnachol gael eu sefydlu gan y Brenin Chuzan Satto gyda'r ymerodraeth Ming o Tsieina ym 1372, cyflwynwyd nifer o wahanol fathau o grefftau ymladd Tsieiniaidd i'r Ynysoedd Ryukyu gan yr ymwelwyr o Tsieina, yn enwedig yn Nhalaith Fujian. Symudodd grŵp o 36 o deuluoedd Tsieiniaidd i Okinawa tua 1392 gyda'r nod o gyfnewid diwylliant a rhannu eu gwybodaeth am grefftau ymladd Tsieiniaidd. Roedd y canoli gwleidyddol o Okinawa gan y Brenin Shohashi ym 1429 a'r 'Polisi Gwahardd Arfau' a gyflwynwyd yn Okinawa ar ôl ymosodiad y llwyth Shimazu ym 1609, hefyd yn ffactorau a arweiniodd at ddatblygiad technegau ymladd heb arfau yn Okinawa.

Ychydig o ddulliau ymladd ffurfiol oedd i 'ti', ond yn hytrach roedd gan nifer o hyfforddwyr eu dulliau eu hunain. Roedd y dulliau cynnar o carati yn aml yn cael eu categoreiddio fel Shuri-te, Naha-te a Tomari-te. Roeddent wedi cael eu henwi ar ôl tair dinas lle dechreuodd y dulliau. Roedd gan bob ardal ac athro ei kata, technegau ac egwyddorion a oedd yn eu gwahaniaethu eu fersiwn lleol nhw o 'ti' o fersiynnau pobl ac ardaloedd eraill.

Pobl enwog o fewn carate

[golygu | golygu cod]
Funakoshi Gichin

Gichin Funakoshi (ふね こし よし ちん Funakoshi Gichin, Tachwedd 10, 1868 - Ebrill 26, 1957) yw sylfaenydd Shotokan Karate-Do, efallai'r arddull carati mwyaf adnabyddus, a elwir yn "dad carati modern". Yn dilyn dysgeidiaeth Anko Itosu ac Anko Asato, bu'n un o feistri carati Okinawan a gyflwynodd carati i dir mawr Siapan yn 1922. Fe ddysgodd carati mewn gwahanol brifysgolion Siapan a daeth yn ben anrhydeddus Cymdeithas Carati Japan ar ôl ei sefydlu ym 194

  1. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html