(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Y Caribî - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Y Caribî

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Caribî)
Map o'r byd yn dangos y Caribî:
glas = Môr y Caribî
gwyrdd = India'r Gorllewin

Rhanbarth o'r Amerig sy'n cynnwys Môr y Caribî, ei ynysoedd, a'r arfordiroedd cyfagos yw'r Caribî (Ffrangeg: Caraïbe, Antilles; Iseldireg: Cariben, Caraïben, Antillen; Saesneg: Caribbean; Sbaeneg: Caribe). Lleolir yn ne-ddwyrain Gogledd America, i ddwyrain Canolbarth America, ac i ogledd-orllewin De America.

Mae'r ardal, a leolir yn bennaf ar y Blât Garibïaidd, yn cynnwys mwy na 7000 o ynysoedd, ynysigiau, riffiau, a chaion. Mae India'r Gorllewin yn cynnwys yr Antilles, a rannir yn Antilles Fwyaf sy'n arffinio'r môr ar y gogledd ac Antilles Leiaf ar y de a'r dwyrain (yn cynnwys Antilles Gysgodol), a'r Bahamas. Lleolir Bermiwda ymhellach yng ngogledd Môr yr Iwerydd, ond mae'n rhan o India'r Gorllewin.

Yn ddaearwleidyddol, ystyrir India'r Gorllewin fel isranbarth o Ogledd America a rhannir yn 28 o diriogaethau yn cynnwys gwladwriaethau sofranaidd, adrannau tramor, a tiriogaethau dibynnol. Rhwng 1958 a 1962, bu wladwriaeth o'r enw Ffederasiwn India'r Gorllewin oedd yn cynnwys deg tiriogaeth Caribïaidd Saesneg.