Carn Fadryn
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 371 metr |
Cyfesurynnau | 52.8857°N 4.5608°W |
Cod OS | SH2786935186 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 343 metr |
Rhiant gopa | Yr Eifl |
Carn Fadryn (neu Carn Fadrun), sy'n fynydd 1,217 troedfedd (371m), yw'r pwynt uchaf yng ngorllewin Llŷn, Gwynedd. Tua hanner milltir i'r de-ddwyrain o'r copa mae copa llai Garn Bach; cyfeiriad grid SH278351. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 28 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Ceir golygfa o ben y mynydd dros benrhyn Llŷn, yn cynnwys tri chopa Yr Eifl i'r gogledd-ddwyrain a mynyddoedd Eryri i'r dwyrain. Mae pen y mynydd yn wastad ond mae ei lethrau'n syrth a chreigiog. Mae creigiau Carn Fadryn o darddiad fwlcanig. Wrth ei droed mae pentref Llaniestyn.
Bryngaer Carn Fadryn
[golygu | golygu cod]Ar gopa Carn Fadryn mae olion hen fryngaer gerrig i'w gweld. Mae ganddi ddau fur amddiffynnol o gerrig mawr. Oddi fewn i'r mur mewnol, sy'n amgae tua 5 hectar o dir, ceir gweddillion cytiau crynion. Mae'r mur allanol yn amgae tua 10.5 hectar o dir ac yn cynnwys olion muriau cynharach a ddefnyddwyd i adeiladu cyfres o gytiau hirsgawr, pob un â'i chorlan gysylltiedig. Mae'r gaer i'w dyddio i Oes yr Haearn; dichon i'r mur mewnol gael ei godi tua 300 C.C. a'r mur allanol tua 100 C.C.. Saif yn nhiriogaeth y Gangani, un o lwythau Celtaidd Cymru; cyfeirnod OS: SH280352.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN011.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Heb fod ymhell o'r fryngaer, ceir maen eratig anferth a elwir Bwrdd Arthur.
Castell Carn Fadryn
[golygu | golygu cod]Ar y copa mae adfeilion castell bychan, a gysylltir â "meibion Owain" (Owain Gwynedd) ac sy'n dyddio o ddiwedd y 12g, yn ôl pob tebyg. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato yn Hanes y Daith Trwy Gymru fel castell oedd newydd ei chodi. Mae'n bron yn sicr mai'r castell hwn ar ben Carn Fadryn yw'r castell yn hanes Gerallt. Mae'r adfeilion yn gorwedd o fewn muriau'r hen fryngaer. Mae mur cerrig, heb forter o gwbl ynddo, yn amgylchynu crib gyfyng. Mae'r olion yn awgrymu castell ar ffurf cestyll mwnt a beili'r Normaniaid. Does dim cofnod arall am y castell wedi dod i lawr i ni.
Castell Madryn
[golygu | golygu cod]I'r gogledd-ddwyrain o Garn Fadryn mae plasdy Castell Madryn yn sefyll. Roedd yn perthyn i'r teulu lleol o'r un enw; roedd aelodau'r teulu yn dirfeddianwyr mawr yn yr ardal. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 16g ond cafodd ei adnewyddu'n sylweddol a'i ehangu yn y 19g. Erbyn heddiw mae parcdir y plasdy'n faes carafanau.
Y copa
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 371m (1217tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Llwythau Celtaidd Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback