Celf ddirywiedig
Roedd Celf Ddirywiedig (Almaeneg: Entartete Kunst, Saesneg: Degenerate art) yn derm sarhaus a defnyddiwyd gan y Natsïaid i ddisgrifio celf fodern.[1]
Yn ystod rheolaeth Adolf Hitler a'r Natsïaid yn y 1930au a 1940au cafodd gelf fodern ei gwahardd am beidio bod yn 'Almaenig go iawn', os oedd wedi'i chreu gan arlunwyr Iddewig neu gomiwnyddol, os oedd yn haniaethol (abstract), neu os nad oedd yn dangos ffigyrau ac elfennau fel yn gelf draddodiadol, glasurol.
Cafodd yr arlunwyr a gyhuddwyd o fod yn 'ddirywiedig' eu gwahodd o'u swyddi fel athrawon celf ac atal rhag arddangos eu gwaith neu'i werthu.
Malwyd llawr o'r darluniau a cherfluniau. Hefyd, llosgwyd llyfrau roedd y Natsïaid yn meddwl oedd yn cyfleu syniadau Iddewig neu gomiwnyddol yn cynnwys llawer o glasuron llenyddiol a gwaith gwyddonol fel Sigmund Freud ac Albert Einstein. Estynnwyd y gwaharddiadau i gynnwys cerddoriaeth fel Jazz, y Natsïaid yn ei gwrthwynebu am iddi gael ei chreu gan bobl o dras Affricanaidd. Gwahoddwyd ffilmiau a dramâu theatr neu eu sensro'n drwm.
Llwyddodd nifer o arlunwyr dianc yr Almaen ac Awstria rhag ofn iddynt gael eu carcharu neu ladd. Ond gafodd llawr o arlunwyr a llenorion eraill, fel Iddewon, pobl hoyw, sipsiwn, pobl gyda phroblemau meddyliol, comiwnyddion, rhyddfrydwyr ac aelodau o grwpiau crefyddol fel Tystion Jehovah eu hanfon i gwersylloedd carchar i'w lladd.[2][3]
Arddangosfa 'Celf Ddirywiedig', 1937
[golygu | golygu cod]Roedd Entartete Kunst (Celf Ddirywiedig) hefyd yn enw arddangosfa a drefnodd Natsïaid ym Munich ym 1937 gyda'r bwriad o gythruddo'r cyhoeddu a chryfhau rhagfarnau.
Casglwyd llawer o'r darluniau a cherfluniau modern ac eu harddangos mewn prif oriel y ddinas, wedi'u hongian yn gam gyda labeli sarhaus. Teithiodd yr arddangosfa wedyn i orielau o amgylch yr Almaen ac Awstria gan ddenu'r nifer uchaf o ymwelwyr yn hanes gelf fodern gyda dros filiwn o ymwelwyr yn y chwe wythnos cyntaf.[1]
Tra gwaharddwyd celf fodern a haniaethol (abstract) cefnogodd y Natsïaid darluniau a cherfluniau traddodiadol a oedd yn cyfleu 'purdeb hil', 'gwaed a phridd', milwriaeth, a chryfder pobl Almaeneg gyda chyrff 'perffaith'.
-
Natsïaid yn llosgi llyfrau ym Berlin, Mai 1933.
-
Tudalen o gatalog yr arddangosfa Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig', a drefnodd y Natsïaid ym 1937.
-
Das Magdeburger Ehrenmal, gan Ernst Barlach a gafodd ei ddatgan yn 'gelf ddirywiedig' am i'r ffigyrau heb gael gyrff delfrydol, perffaith
Arlunwyr yn yr arddanfgosfa Entartete Kunst, Munch, 1937
[golygu | golygu cod]- Jankel Adler
- Hans Baluschek
- Ernst Barlach
- Rudolf Bauer
- Philipp Bauknecht
- Otto Baum
- Willi Baumeister
- Herbert Bayer
- Max Beckmann
- Rudolf Belling
- Paul Bindel
- Theo Brün
- Max Burchartz
- Fritz Burger-Mühlfeld
- Paul Camenisch
- Heinrich Campendonk
- Karl Caspar
- Maria Caspar-Filser
- Pol Cassel
- Marc Chagall
- Lovis Corinth
- Heinrich Maria Davringhausen
- Walter Dexel
- Johannes Diesner
- Otto Dix
- Pranas Domšaitis
- Hans Christoph Drexel
- Johannes Driesch
- Heinrich Eberhard
- Max Ernst
- Hans Feibusch
- Lyonel Feininger
- Conrad Felixmüller
- Otto Freundlich
- Xaver Fuhr
- Ludwig Gies
- Werner Gill
- Otto Gleichmann
- Rudolph Grossmann
- George Grosz
- Hans Grundig
- Rudolf Haizmann
- Raoul Hausmann
- Guido Hebert
- Erich Heckel
- Wilhelm Heckrott
- Jacoba van Heemskerck
- Hans Siebert von Heister
- Oswald Herzog
- Werner Heuser
- Heinrich Hoerle
- Karl Hofer
- Eugen Hoffmann
- Johannes Itten
- Alexej von Jawlensky
- Eric Johansson
- Hans Jürgen Kallmann
- Wassily Kandinsky
- Hanns Katz
- Ernst Ludwig Kirchner
- Paul Klee
- Cesar Klein
- Paul Kleinschmidt
- Oskar Kokoschka
- Otto Lange
- Wilhelm Lehmbruck
- Elfriede Lohse-Wächtler
- El Lissitzky
- Oskar Lüthy
- Franz Marc
- Gerhard Marcks
- Ewald Mataré
- Ludwig Meidner
- Jean Metzinger
- Constantin von Mitschke-Collande
- László Moholy-Nagy
- Marg Moll
- Oskar Moll
- Johannes Molzahn
- Piet Mondrian
- Georg Muche
- Otto Mueller
- Magda Nachman Acharya
- Erich Nagel
- Heinrich Nauen
- Ernst Wilhelm Nay
- Karel Niestrath
- Emil Nolde
- Otto Pankok
- Max Pechstein
- Max Peiffer Watenphul
- Hans Purrmann
- Max Rauh
- Hans Richter
- Emy Roeder
- Christian Rohlfs
- Edwin Scharff
- Oskar Schlemmer
- Rudolf Schlichter
- Karl Schmidt-Rottluff
- Werner Scholz
- Lothar Schreyer
- Otto Schubert
- Kurt Schwitters
- Lasar Segall
- Friedrich Skade
- Friedrich (Fritz) Stuckenberg
- Paul Thalheimer
- Johannes Tietz
- Arnold Topp
- Friedrich Vordemberge-Gildewart
- Karl Völker
- Christoph Voll
- William Wauer
- Gert Heinrich Wollheim
Symudiadau celf Entartete Kunst
[golygu | golygu cod]- Bauhaus
- Ciwbiaeth
- Dada
- Mynegiadaeth (Expressionism)
- Fauvism
- Argraffiadaeth(Impressionism)
- New Objectivity
- Swrealaeth (Surrealism)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Spotts, Frederic (2002). Hitler and the Power of Aesthetics. The Overlook Press. ISBN 1-58567-507-5.
- ↑ Shttp://www.vam.ac.uk/content/articles/e/entartete-kunst/
- ↑ Shttp://www.geschkult.fu-berlin.de/en/e/db_entart_kunst/index.html
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Stephanie Barron, Degenerate Art: The Fate of the Avant-Garde in Nazi Germany (Efrog Newydd, 1991)
- Fritz Kaiser, Degenerate Art: The Exhibition Guide in German and English (San Bernadino, 2012)