Chris Martin
Chris Martin | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1977 Caerwysg |
Man preswyl | Los Angeles, Efrog Newydd, El Peñéu |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Addysg | gradd baglor |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cerddor, cyfansoddwr caneuon, canwr, gitarydd, cynhyrchydd recordiau |
Arddull | roc amgen |
Math o lais | bariton, baritenor |
Prif ddylanwad | Thom Yorke |
Tad | Anthony John Martin |
Mam | Alison Fleming |
Priod | Gwyneth Paltrow |
Partner | Dakota Johnson, Annabelle Wallis, Jennifer Lawrence |
Plant | Apple Martin, Moses Martin |
Perthnasau | Muriel Pattison, David Martin, Elisabeth Jane Martin, William Willett |
Gwefan | http://www.coldplay.com |
llofnod | |
Mae Christopher Anthony John Martin (ganwyd 2 Mawrth 1977), neu Chris Martin, yn ganwr, cyfansoddwr a cherddor Saesneg sy'n brif aelod o'r band byd eang Saesneg, Coldplay. Cafodd Chris Martin ei eni yng Nghaerwysg, Dyfnaint. Roedd Chris Martin yn fyrfyriwr ym Mhrifysgol Coleg Llundain lle wnaeth sefydlu grŵp roc yn 1996 o'r enw 'Starfish' gyda Jonny Buckland, Guy Berryman a Will Champion. Fe wnaeth enw'r grŵp yma newid i Coldplay erbyn 1998.
Fe wnaeth Chris Martin, yn ogystal ag aelodau eraill Coldplay, gael cydnabyddiaeth byd-eang yn dilyn rhyddhau eu sengl 'Yellow' yn 2000 a wnaeth hefyd arwain at eu enwebiad cyntaf fel band am y can roc orau (Gwobr Grammy). Mae'r band hefyd wedi ennill Gwobr Grammy am eu halbymau 'A Rush of Blood to the Head' a 'Viva la Vida'. Gwerthodd Coldplay dros 100 miliwn o recordiau ac maen nhw'n cael eu hadnabod fel un o'r bandiau mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig yn dilyn ennill llu o wobrwyau. Fe ymddangosodd Chris Martin yn rhestr 'Darbett's' yn 2017 fel un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y DU.
Gwybodaeth personol
[golygu | golygu cod]Fe briododd Chris Martin gyda'r actores Americanaidd Gwyneth Paltrow yn 2003 ond fe gafodd y ddau ysgariad 13 mlynedd wedyn yn 2016. Yn 2017, fe briododd Chris Martin gyda Dakota Johnson. Mae can Martin ddau o blant.