(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Delphinus (cytser) - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Delphinus (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Delphinus
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Rhan oNorthern celestial hemisphere Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Delphinus yn dangos sêr sydd yn weladwy i'r llygad noeth, a hefyd, yn llwydlas, y Llwybr Llaethog
Cytser Delphinus fel dolffin mewn fersiwn 1729 o Atlas Coelestis y seryddwr John Flamsteed

Cytser seryddol yw Delphinus, eithaf bach o safbwynt maint yn y wybren.[1] Mae'r enw yn golygu dolffin yn Lladin oherwydd gwelodd pobl y byd clasurol ffurf dolffin yn y sêr disgleiriaf.[2]

Roedd Delphinus un o'r 48 cytser ar restr yr athronydd Ptolemi yn yr ail ganrif. Heddiw mae Delphinus un o'r 88 cytser y gwnaeth yr Undeb Seryddol Rhyngwladol eu cydnabod yn swyddogol ym 1922. Del ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb am y cytser. Mae'r ffurf Delphini yn dynodi seren o'r cytser, er engrhaifft Alffa Delphini (αあるふぁ Del) a Beta Delphini (βべーた Del), y sêr disgleiriaf yn y cytser.

Lleolir Dephinus ychydig i'r gogledd o'r cyhydedd wybrennol, rhwng y cytserau Aquila, Sagitta, Vulpecula, Pegasus, Equuleus ac Aquarius. Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Orion yn y wybren ym mis Gorffennaf, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Gorffennaf a Hydref yw'r cyfnod gorau i weld y cytser ar ôl iddi nosi.

Mae Delphinus yn cynnwys rhan o'r Llwybr Llaethog ac o ganlyniad mae rhai nifylau a chlystyrau sêr i'w gweld yn y cytser. Ymhlith rhain mae'r nifwl planedol NGC 6891, a'r chlystyrau globylog NGC 6834 a NGC 7006, ond does dim un yn ddisglair iawn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8. Tud. 817–832. (Yn Saesneg.)
  2. Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 198–201. (Yn Saesneg.)
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.