Diana Ross
Gwedd
Diana Ross | |
---|---|
Ganwyd | Diana Ernestine Earle Ross 26 Mawrth 1944 Detroit |
Label recordio | Motown Records, RCA |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, actor |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, disgo, jazz, cerddoriaeth ddawns |
Math o lais | soprano |
Priod | Arne Næss, Jr., Robert Ellis Silberstein |
Partner | Berry Gordy, Gene Simmons |
Plant | Tracee Ellis Ross, Evan Ross, Rhonda Ross Kendrick |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Anrhydedd y Kennedy Center, Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Y César Anrhydeddus, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Commandeur des Arts et des Lettres |
Gwefan | https://www.dianaross.com/ |
Mae Diana Ernestine Earle Ross (ganwyd 26 Mawrth 1944) yn gantores, cynhyrchydd recordiau ac yn actores sydd wedi cael eu henwebu am Grammy ac Oscar ar ddeuddeg achlysur. Mae ei cherddoriaeth yn amrywio o R&B, soul, pop, disco a jazz. Yn ystod y 1960au, dylanwadodd yn fawr ar gerddoriaeth boblogaidd ac ar gerddoriaeth Motown fel prif leisydd y band The Supremes, cyn iddi ddechrau ar ei gyrfa unigol ar ddechrau'r 1970au. Ers dechrau ei gyrfa gyda The Supremes ac fel artist unigol, mae Diana Ross wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau.