Dilyniant
Y radd o gysondeb mewnol a gynhelir mewn naratif ffuglen yw dilyniant. Mewn cyfryngau print gall gyfeirio at gysondeb y plot a'r cymeriadau. Mewn cyfryngau gweledol, mae hefyd yn cynnwys cysondeb propiau, gwisgoedd a set yn ogystal ag agweddau technegol megis cysondeb y goleuo a lleoliad y camerâu.
Gellir torri dilyniant yn hawdd mewn ffilmiau a chynyrchiadau teledu am nad yw golygfeydd o anghenraid yn cael eu saethu yn y drefn ddilyniannol sydd yn y sgript. Er enghraifft, gall golygfeydd sydd yn digwydd yn yr un lleoliad gael eu saethu ar yr un pryd, waeth beth yw eu trefn ddilyniannol. O un olygfa i'r nesaf, gall clociau sydd heb eu cydamseru, newidiadau gwisg, newid yn ansawdd y llun, ac eitemau sy'n diflannu neu yn newid lliw dorri rhith y naratif.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.