Emilio Frugoni
Emilio Frugoni | |
---|---|
Ffugenw | Urgonif, Imulio Urgonif, Tritón |
Ganwyd | Emilio Frugoni Queirolo 30 Mawrth 1880 Montevideo |
Bu farw | 28 Awst 1969 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, diplomydd, llenor, cyfreithiwr, athro, gwleidydd, bardd |
Swydd | Member of the Chamber of Representatives of Uruguay, llysgennad |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Wrwgwai |
Gwleidydd, cyfreithiwr, a llenor o Wrwgwái oedd Emilio Frugoni (30 Mawrth 1880 – 28 Awst 1969). Sefydlodd Blaid Sosialaidd Wrwgwái, a mynegodd ei syniadau gwleidyddol yn ei ysgrifeniadau, gan gynnwys Socialismo, batllismo y nacionalismo (1928), La revolución del machete (1935), Ensayos sobre marxismo (1936), a Génesis, esencia y fundamentos del socialismo (1947). Cyhoeddodd 12 cyfrol o farddoniaeth delynegol.
Er ei daliadau Marcsaidd, roedd Frugoni yn cefnogi'r Arlywydd José Batlle y Ordóñez (1903–07, 1911–15), arweinydd y Partido Colorado, a chanddi ideoleg ryddfrydach. Dadleuodd Frugoni o blaid diwygiadau moesol Batlle, gan gynnwys cyfreithloni ysgariad a diddymu'r gosb eithaf, yn ogystal â chefnogaeth dros y mudiad llafur, gweithiau cyhoeddus, ac adeiladau ysgolion. Yn 1910, cefnogodd Frugoni y llywodraeth yn erbyn bygythiad chwyldro gan y Partido Blanco a'r Radicalwyr.[1]
Dadleuodd Frugoni ers 1904 dros ffurfio mudiad sosialaidd i drefnu'r gweithwyr yn wleidyddol, a sefydlwyd y Blaid Sosialaidd ganddo yn 1910. Ysgrifennodd faniffesto'r blaid, gan ddatgan ei chefnogaeth dros y cyfansoddiad a'r drefn wleidyddol yn hytrach nag ymgyrchoedd chwyldroadol a threisgar yr anarchwyr. Etholwyd Frugoni i'r gyngres genedlaethol ar gyfer y tymor 1911–14, a chydweithiodd gyda'r Arlywydd Batlle wrth ddeddfu dros les y dosbarth gweithiol.[1]
Penodwyd Frugoni yn ddeon Prifysgol y Weriniaeth yn 1933. Gwasanaethodd yn llysgennad Wrwgwái i'r Undeb Sofietaidd o 1945 i 1948, ac ysgrifennodd lyfr am ei brofiadau, La esfinge roja (1948), sy'n canmol datblygiadau'r Sofietiaid ond yn mynegi pryder am gamdriniaethau hawliau dynol yn y wlad.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Frugoni, Emilio (1880–1969)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Gerardo Giudice, Frugoni (Montevideo: Proyección, 1995).
- Milton I. Vanger, The Model Country: José Batlle y Ordóñez of Uruguay, 1907–1915 (1980).
- Academyddion yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Beirdd yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Beirdd Sbaeneg o Wrwgwái
- Cyfreithwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Diplomyddion o Wrwgwái
- Genedigaethau 1880
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Llenorion gwleidyddol o Wrwgwái
- Llysgenhadon o Wrwgwái
- Llysgenhadon i'r Undeb Sofietaidd
- Marwolaethau 1969
- Sosialwyr o Wrwgwái
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Sbaeneg o Wrwgwái