Esquerra Republicana de Catalunya
Chwith Weriniaethol Catalwnia | |
---|---|
Ideoleg | Asgell-chwith/Annibyniaeth |
Sefydlwyd | 1931 |
Arweinydd presennol | Oriol Junqueras |
Grŵp Senedd Ewrop | Gwyrdd-Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA) |
Gwefan | http://www.esquerra.cat/ |
Plaid genedlaetholgar, adain-chwith[1] yn anelu at annibyniaeth Catalwnia yw'r Esquerra Republicana de Catalunya (Catalaneg), yn golygu Chwith Weriniaethol Catalwnia. ERC neu Esquerra (Chwith) yn fyr.[2][3]
Mae canran uchel o aelodaeth Esquerra, fel nifer o bleidiau Catalanaidd eraill sy'n ceisio annibyniaeth, o'r farn nad Cymuned Ymreolaethol Catalwnia yn unig sy'n ffurfio'r genedl Gatalanaidd, ond hefyd y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("Y Gwledydd Catalanaidd’’). Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o Wlad Falensia , yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia. Mae Esquerra yn sefyll yn etholiadau neu â phresenoldeb trwy’r ardaloedd yma.[4]
Arweinydd presennol y blaid yw Oriol Junqueras, mae gan ERC aelodau yng Nghyngres a Senedd Sbaen a Parlament de Catalunya (Senedd Catalwnia). Mae ei dau aelod o Senedd Ewrop sydd yn eistedd yn grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop) gyda chynrychiolwyr pleidiau gwyrddion a chefnogwyr annibyniaeth o sawl gwlad yn cynnwys Plaid Cymru a'r SNP.
Carcharu Oriol Junqueras, 2017
[golygu | golygu cod]Ar 2 Tachwedd 2017, yn dilyn Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 a Datganiad o Annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia, carcharwyd arweinydd ERC, Oriol Junqueras, gan Lys Cenedlaethol Sbaen, ynghyd ag aelodau eraill o Lywodraeth Catalwnia, oherwydd iddo ymgyrchu dros annibyniaeth Catalwnia.
Sefydlodd glymblaid Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) i ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017. Er i nifer o brif arweinwyr ddal i fod yng ngharchar enillodd ERC–CatSí 6 sedd ychwanegol gan ddod yr ail blaid fwyaf: cyfanswm o 26 sedd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y blaid yn ninas Barcelona yn 1931. Bu ganddi ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y 1930au gan ennill etholiadau Catalwnia ym 1934 a 1936 o dan arweiniad Francesc Macià a Lluís Companys a cheisiodd ddatgan Weriniaeth Gatalanaidd erbyn ewyllus llywodraeth Madrid.[5]
Roedd yr ymgais i ddatgan gweriniaeth yn un o’r elfennau argyfwng gwleidyddol Sbaen a wnaeth arwain i ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen ym mis Gorffennaf 1936. Daeth Esquerra yn rhan o’r Frente Popular (Ffrynt Poblogaidd) o fudiadau asgell chwith oedd yn brwydro yn erbyn lluoedd ceidwadol asgell dde o dan arweiniad y Cadfridog Francisco Franco.
Yn 1939, wedi colli’r rhyfel, cafodd bleidiau’r Frente Popular eu gwneud yn anghyfreithlon. Cafodd Lluis Companys ei ddienyddio gan sgwad saethu yng Nghastell Montjuïc, Barcelona ym 1941.
Pan ail-seflydlwyd democrataeth yn Sbaen yn dilyn farwolaeth Franco yn 1975 fe ail sefydlwyd Senedd Catalwnia ac mae Esquerra wedi sefyll yr etholiadau.
Enillwyd 23 sedd yn 2003 a ffufwyd clymbaid gyda Partit dels Socialistes de Catalunya (Plaid Sosialaidd Cataonia) ac Iniciativa per Catalunya Verds-Esquerra Unida i Alternativa (ICV-EUiA) (Plaid Werdd Catalwnia – Chwith Uniedig, Amgen).
Yn 2006 penderfynodd Esquerra beidio â chefnogi newidiadau i’r Estatut d'Autonomia de Catalunya (Deddf Datganoli Catalwnia) i roi mwy o hunanlywodraeth i Gatalwnia gan ddadlau nad oedd y newidiadau yn mynd yn ddigon pell.
Mae nifer o bleidiau Catalaneg, yn cynnwys Esquerra, wedi bod yn galw ar Lywodraeth Madrid am y hawl i gynnal reffferendwm ar hunanlywodaeth referèndum d'autodeterminació de Catalunya.[6]
Symbolau
[golygu | golygu cod]Mae cefnogwyr y Blaid yn defnyddio'r senyera estelada fersiwn o faner senyera Catalwnia gyda seren goch ar gefndir triongl melyn neu seren wen ar gefndir triongl glas, y seren yn sefyll dros annibyniaeth.[7]
Senedd Catalwnia
[golygu | golygu cod]Blwyddyn yr etholaid | # o bleidleisiau | % o'r holl bldieais | +/- | |
---|---|---|---|---|
Etholiad Senedd Catalwnia, 1988 | 111,647 | 4.1 (#5) | ||
Etholiad Senedd Catalwnia, 1992 | 210,366 | 7.9 (#3) | 5 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 1995 | 305,867 | 9.4 (#4) | 2 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 1999 | 271,173 | 8.6 (#4) | 1 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2003 | 544,324 | 16.4 (#3) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2006 | 416,355 | 14.0 (#3) | 2 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2010 | 218,046 | 7.0 (#5) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2012 | 496,292 | 13.7 (#2) | 11 | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2015 | 1,628,714 | 39.6% (#1) | Clymblaid | |
Etholiad Senedd Catalwnia, 2017 | 929,407 | 21.4% (#1) | Clymblaid |
Arweinwyr Esquerra
[golygu | golygu cod]- Francesc Macià (1931-1933)
- Lluís Companys (1933-1935)
- Carles Pi i Sunyer (1933-1935)
- Lluís Companys (1936-1940)
- Heribert Barrera (1993-1995)
- Jaume Campabadal (1995-1996)
- Jordi Carbonell (1996-2004)
- Josep-Lluís Carod-Rovira (2004-2008)
- Joan Puigcercós (2008-2011)
- Oriol Junqueras (Ers 2011)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). tt. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4.
- ↑ Guibernau, Montserrat (2004), Catalan Nationalism: Francoism, transition and democracy, Routledge, p. 82
- ↑ Hargreaves, John (2000), Freedom for Catalonia?: Catalan Nationalism, Spanish Identity and the Barcelona Olympic Games, Cambridge University Press, p. 84
- ↑ Jaume Renyer Alimbau, ERC: temps de transició. Per una esquerra forta, renovadora i plural (Barcelona: Cossetània, 2008).
- ↑ The Battle for Spain Beevor (2006)
- ↑ Stobart, Luke. «Catalans are ready for independence – but are their leaders?». The Guardian, 12 Medi 2013 [Consulta: 27 Medi 2013].
- ↑ Crexell, Joan ‘’Origen de la Bandera Independentista’’ Cyhoeddwyd gan: El llamp, 1984. ISBN 8486066352