Gerentocratiaeth
Enghraifft o'r canlynol | math o lywodraeth, math o wladwriaeth |
---|---|
Math | oligarchiaeth, system wleidyddol |
Gerentocratiaeth (Saesneg Gerontocracy) yw system sy'n hyrwyddo oedran person fel maen prawf ar gyfer dethol llywodraeth.
Cafodd y syniad ei ffurfioli gyntaf yng Ngroeg yr Henfyd, er ei fod yn debyg bod dylanwad yr hen ar lywodraeth llwythau yn hŷn o lawer, fel yr awgryma'r dihareb Gymraeg: "Yr hen a ŵyr a'r ifanc a dybia". Fe ddywedodd Plato "rhan yr hynafgwyr yw reoli a rhan y gwŷr iau yw ufuddhau". Roedd dinas-wladwriaeth Sparta'n cael ei rheoli gan y Gerousia, sef cyngor o bobl oedd dros eu trigain oed wrth gychwyn yn y swydd, ac oedd yn parhau yn eu swydd am weddill eu bywyd.
Mae'r gair "senedd" yn tarddu o'r Lladin senatus,[1] ac mae gwreiddyn yr elfen sen- yn nechrau'r gair yr un fath a'r sen- yn y geiriau Saesneg senile, sentimental ac ati, sef senex – "hen ddyn".
Prin yw'r enghreifftiau o lywodraethau cyfoes sy'n statudol yn gerentocrataidd ond mae ambell i system wleidyddol yn arwain at gerentocratiaeth - megis brenhiniaeth neu unbennaeth, lle mae arweinwyr yn aros yn eu swydd hyd farwolaeth. Mae Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, a phennaeth swyddogol y wladwriaeth, ymhell dros ei 80 oed ac mae ei olynydd tybiedig eisoes ymhell dros ei 60 oed. Bu nifer o arweinwyr Comiwnyddol y byd yn arwain eu gwledydd hyd nes iddynt farw yn eu 70au neu eu 80au, er enghraifft: Leonid Brezhnev (75) a Mao Zedong (82).
Mae systemau democrataidd yn gallu arwain at gerentocratiaeth anfwriadol, pan fo modd i berson ennill sedd saff am oes.
Yn y Deyrnas Unedig bydd nifer o hen wleidyddion sydd yn ymddeol o'u seddi, neu yn colli eu seddi, yn cael eu dyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi, uwch siambr y llywodraeth, am weddill eu hoes.
Yn 2004 penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnig Ta Ta Aur i Gynghorwyr Sir Cymru a oedd yn eu penwynni, er mwyn lleihau cyfartaledd oedran y cynghorwyr; costiodd £1,600,000 mewn taliadau, ond heb wneud y nesaf peth i ddim at leihau cyfartaledd oedran y cynghorwyr a etholwyd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ senedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Mai 2024.
- ↑ Newyddion BBC Wales - Councillors not getting younger [1] adalwyd 11 Gorff 2015