Guto Bebb
Guto Bebb AS | |
---|---|
Gweinidog Swyddfa Cymru | |
Yn ei swydd 19 Mawrth 2016 – 9 Ionawr 2018 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenydd | Alun Cairns |
Aelod Seneddol dros Aberconwy | |
Yn ei swydd 6 Mai 2010 – 6 Tachwedd 2019 | |
Rhagflaenydd | Sefydlwyd yr etholaeth |
Mwyafrif | 3,999 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Wrecsam | 9 Hydref 1968
Plaid wleidyddol | Y Blaid Geidwadol |
Gŵr neu wraig | Esyllt Bebb |
Plant | 5 |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Gwefan | Gwefan swyddogol Bywgraffiad Seneddol |
Gwleidydd Cymreig yw Guto ap Owain Bebb (ganed 9 Hydref, 1968[1]) oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan rhwng 7 Mai 2010 pan enillodd etholaeth Aberconwy,ac Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2019. Mae'n Gymro Cymraeg.
Ganed Bebb yn Wrecsam yn 1968.[2] Cafodd ei fagu yng ngogledd Cymru a'i addysgu yn Ysgol Syr Hugh Owen ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Mae'n ŵyr i William Ambrose Bebb (1894-1955), un o sylfaenwyr Plaid Cymru.[1]
Gadawodd Blaid Cymru ar ôl cyfnod fel asiant y blaid yn etholaeth Caernarfon yn 2001 i ymuno â'r Ceidwadwyr.[1][4] Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr mewn is-etholiad yn 2002; daeth yn bedwerydd gyda 1,377 (7.5%) pleidlais.[5] Yn etholiad cyffredinol 2005 safodd fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth seneddol Conwy a daeth yn ail gyda 9,398 (27.9%) pleidlais.[5] Yn etholiad cyffredinol 2010 enillodd sedd newydd Aberconwy gyda 10,734 (35.8%) pleidlais.[5] Cafodd ei olynu gan geidwadwr arall, Robin Millar.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Welsh Icons". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-17. Cyrchwyd 2010-05-07.
- ↑ Guto Bebb Archifwyd 2010-05-11 yn y Peiriant Wayback, gwefan y Blaid Geidwadol.
- ↑ Ceidwadwyr Aberconwy[dolen farw]
- ↑ Barn[dolen farw]
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Guto Bebb: Electoral history and profile, The Guardian.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen Bebb[dolen farw] ar wefan Ceidwadwyr Aberconwy.
- Guto Bebb ar Twitter
- (Saesneg) Proffil Bebb Archifwyd 2010-05-11 yn y Peiriant Wayback ar wefan y Blaid Geidwadol.
- 'Richard Wyn Jones a Guto Bebb '[dolen farw], Barn.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Aberconwy 2010 – presennol |
Olynydd: Robin Millar |