Hanner marathon
Gwedd
Ras 21.0975 km o bellter ydy hanner marathon. Mae'r ras ei hun hanner pellter marathon llawn a gan amlaf fe'i chynhelir ar yr heol. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf ym mhoblogrwydd ras yr hanner marathon.[1] Un o'r prif resymau am hyn yw am fod y pellter yn heriol, ond nid oes angen yr un lefel o hyfforddiant a marathon llawn.[1] Yn 2008, dywedodd Running USA mai'r hanner marathon yw'r ras sy'n tyfu fwyaf o ran poblogrwydd.[1] Adleisiwyd hyn mewn erthygl o 2010 gan Universal Sports.[1][2] Yn aml, cynhelir hanner marathon ar yr un diwrnod a marathon llawn, ond caiff y cwrs ei fyrhau. Gelwir hanner marathon yn ras 21K, 21.1K neu 13.1 milltir, er bod y pellteroedd yma wedi'u talgrynu ac felly nid ydynt yn gwbl gywir.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Sometimes Half Is Better Than Whole. NY Times (24 Gorffennaf, 2008).
- ↑ Half the distance, twice the fun: Half-marathons taking off. Universal Sports (20 Mai, 2010).