James Reynolds Gummow
James Reynolds Gummow | |
---|---|
Ganwyd | 1826 |
Bu farw | 1877 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pensaer |
Pensaer ac adeiladwr o Gymro o'r 19eg ganrif, a gweithiodd yn enwedig yn Wrecsam a dyluniodd nifer o adeiladau pwysig o gwmpas y dref, oedd James Reynolds Gummow (1826–1877).
Teulu
[golygu | golygu cod]Cafodd James Reynolds Gummow ei eni yn Wrecsam ym 1826, i Michael Gummow a Sarah Roberts. Daeth JR Gummow o deulu o benseiri ac adeiladwyr – cafodd ei dad, Michael Gummow, ei benodi fel syrfëwr bwrdeistref cyntaf Wrecsam. [1] Roedd Michael Gummow yn nai i Benjamin Gummow, [1] pensaer yn wreiddiol o Gernyw a gwnaeth bron ei holl waith i Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay, Rhiwabon, ac i'r teulu Grosvenor of Neuadd Eaton, ger Caer.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dyluniodd JR Gummow nifer o adeiladau pwysig yn Wrecsam, yn enwedig tai preifat ar gyfer dosbarth canol cynyddol y dref. Mae llawer o'r adeiladau hyn yn dal i sefyll, yn bennaf yn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor i'r gorllewin o ganol y ddinas. Mae enghreifftiau o adeiladau a ddyluniwyd gan JR Gummow yn Wrecsam yn cynnwys: Grosvenor Lodge, Rhif 1 Ffordd Grosvenor, [2] Abbotsfield, Ffordd Rhosddu, [2] Tŷ’r Esgob, Ffordd Sonlli. [3] Yn ôl pob tebyg, Gummow oedd yn gyfrifol hefyd ar gyfer Rhif 2 Ffordd Grosvenor, Plas Gwilym, Rhif 3 Ffordd y Llwyni [4] a Oteley House, Ffordd Salisbury. [5]
Ym 1856 ceisiodd Gummow am fethdaliad. Ym 1874 cyhoedded e lyfr o'r enw 'Hints on Home Building', a oedd yn cynnwys manylion o nifer o'i adeiladau. [1]
Bu farw ym 1877.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Hubbard, Edward (1986). The Buildings of Wales - Clwyd (Denbighshire and Flintshire). Penguin Books - University of Wales Press. tt. p. 67.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ 2.0 2.1 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
- ↑ "The Bishops House, Offa, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
- ↑ "Plas Gwilym, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
- ↑ "Ardal Gadwraeth Parc Salisbury Cynllun Asesu a Rheoli Cymeriad" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 15 Mehefin 2023.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Rhif 1, Ffordd Grosvenor ("Grosvenor Lodge")
-
Abbotsfield, Ffordd Rhosddu