John Humphreys Parry
John Humphreys Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1786 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 12 Chwefror 1825 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bargyfreithiwr, hynafiaethydd |
Plant | John Humffreys Parry, Hannah Elizabeth Parry |
Golygydd a newyddiadurwr o Gymru oedd John Humphreys Parry neu John Humffreys Parry (1786 – 12 Chwefror 1825), a adnabyddid hefyd wrth ei enw barddol Ordovex. Gwnaeth gyfraniad pwysig at yr adfywiad o ddiddordeb mewn llenyddiaeth Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yng ngweithgareddau diwylliannol a gwladgarol Cymry Llundain yn chwarter cyntaf y 19g.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Brodor o'r Wyddgrug, Sir y Fflint oedd John Humphreys. Fel nifer o'i gydwladwyr, symudodd i ddinas Llundain i geisio gwaith yn 1807. Daeth yn gyfreithiwr yn 1811 ond nid ymroddodd i'w alwedigaeth newydd a throes at newyddiaduraeth i ennill ei fywoliaeth gan ddefnyddio'r ffugenw Ordovex (sef 'un o'r Ordovices').
Daeth yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion. Bu ganddo ran bwysig yn atgyfodiad Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hefyd yn nes ymlaen. Digwyddodd hynny ar ôl cyfarfod dros frecwast rhyngddo a W. J. Rees a William Owen Pughe yn nhŷ John Parry (Bardd Alaw). Fe'i pendodwyd yn ysgrifennydd fel canlyniad a bu cyfeillgarwch rhyngddo a Pughe wedyn am weddill ei oes, er ei fod yn gwrthod orgraff Gymraeg newydd Pughe.[2]
Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn hynafiaethau llenyddol a hanes Cymru ac yn 1819 sefydlodd y cylchgrawn The Cambro-Briton, cylchgrawn hynafiaethol dylanwadol a olygwyd ganddo am dair blynedd nes ei ddirwyn i ben yn 1822. Yn 1824 cyhoeddodd The Cambrian Plutarch, sef geiriadur bywgraffyddol Cymreig.
Roedd ganddo enw am fod yn fyrbwyll a cholli ei dymer. Yn 1825 cafodd ei ladd mewn ysgarmes ger tafarn y Prince of Wales yn Pentonville, Llundain, lle adnabyddus i nifer o Gymry Llundain dros y blynyddoedd.
Roedd Parry wedi dechrau paratoi argraffiad o Gyfraith Hywel, ond pan fu farw heb orffen y gwaith cwblhawyd ef gan Aneurin Owen, a'i cyhoeddodd yn 1841 fel Ancient Laws and Institutes of Wales.