Jovenel Moïse
Jovenel Moïse | |
---|---|
Yr Arlywydd Jovenel Moïse (2019). | |
Ganwyd | 26 Mehefin 1968 Trou-du-Nord |
Bu farw | 7 Gorffennaf 2021 o anaf balistig Pétion-Ville |
Dinasyddiaeth | Haiti |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Arlywydd Haiti |
Plaid Wleidyddol | Haitian Tèt Kale Party |
Priod | Martine Moïse |
Gwobr/au | Order of Brilliant Jade |
Gwleidydd a dyn busnes o Haiti oedd Jovenel Moïse (26 Mehefin 1968 – 7 Gorffennaf 2021) a fu'n Arlywydd Haiti o 2017 hyd at ei lofruddiaeth yn 2021.
Ganed yn Trou-du-Nord yng ngogledd ddwyrain Haiti. Symudodd ei deulu i'r brifddinas Port-au-Prince pan oedd Jovenel yn chwech oed, ac yno mynychodd y Lycée Toussaint Louverture a'r Centre Culturel du Collège Canado-Haïtien. Ym 1996 priododd â Martine Joseph, a chychwynnodd ar ei fenter gyntaf yn Port-de-Paix yn gwerthu darnau sbâr ar gyfer ceir. Dechreuodd hefyd dyfu bananas ar blanhigfa fechan, rhyw 25 erw. Ymhen amser, bu'n berchen ar blanhigfa 25 000 erw, ac enillodd y llysenw "Dyn Banana". Bu cynllun i allforio bananas i'r Almaen, ac i greu 3000 o swyddi, ond yn y pen draw dim ond dau gynhwysydd a allforiwyd a rhyw gannoedd o swyddi a grëwyd. Yn 2001 gweithiodd gyda'r cwmni Americanaidd Culligan i adeiladu ffatri dŵr yfed ar gyfer gogledd y wlad.[1]
Yn 2015 cafodd Moïse ei enwebu gan yr Arlywydd Michel Martelly i'w olynu yn ymgeisydd y blaid Tèt Kale ar gyfer yr arlywyddiaeth. Cafodd yr etholiad ei ohirio a'r canlyniadau eu herio sawl gwaith, ac o'r diwedd datganwyd Moïse yn enillydd y bleidlais a gynhaliwyd yn Nhachwedd 2016,[2] a fe'i urddwyd yn arlywydd ar 7 Chwefror 2017.[3] Bwriadai Moïse hyrwyddo amaethyddiaeth biodynamig, diwygio ynni, ac atynnu buddsoddiadau tramor i'r wlad. Yn 2020, cafodd ei gysylltu â chynllwyn i ladrata arian o gytundeb olew rhwng Haiti a Feneswela, ond mynnodd Moïse nad oedd ganddo ran yn y sgandal. Er i'w dymor yn swydd yr arlywydd ddod i ben, datganodd Moïse y byddai'n llywodraethu trwy ordinhad. Trodd y sefyllfa wleidyddol yn dreisgar, a gwrthdystiodd nifer o bobl yn erbyn Moïse gan ei alw'n unben.[1] Ar 7 Gorffennaf 2021, saethwyd yr Arlywydd Moïse yn farw, yn 53 oed, gan griw o ddynion a dorrodd i mewn i'w breswylfa yn Pétion-Ville, yn y bryniau ar gyrion Port-au-Prince.[4] Claddwyd ei gorff rhyw ddwy wythnos yn ddiweddarach yn Cap-Haïtien, yn agos i'w dref enedigol.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Jovenel Moïse, President of Haiti who oversaw a period of bitter conflict in his country – obituary", The Daily Telegraph (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) "Haiti: Jovenel Moise confirmed winner of presidential election", BBC (4 Gorffennaf 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Arlywydd newydd Haiti yn addo cyflwyno “gwelliannau go iawn”", Golwg360 (7 Chwefror 2017). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Arlywydd Haiti wedi’i ladd yn ei gartref yn dilyn ansefydlogrwydd gwleidyddol", Golwg360 (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 8 Gorffennaf 2021.
- ↑ (Saesneg) "Haiti holds funeral for slain president Jovenel Moise", South China Morning Post (23 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 23 Gorffennaf 2021.