Kate Crockett
Kate Crockett | |
---|---|
Ganwyd | Aberdâr |
Man preswyl | Caerdydd, Ceredigion, Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | BBC Radio Cymru |
Newyddiadurwraig a chyflwynydd radio Cymreig ydy Kate Crockett. Mae hi'n un o dîm y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Crockett yn Aberdâr a'i magwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion a Merthyr Tudful. Aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio aeth i weithio fel newyddiadurwraig, i ddechrau gyda cylchgrawn Golwg. Ers hynnu bu'n cyflwyno ar nifer o raglenni radio a theledu gan gynnwys Hacio, Y Byd ar Bedwar, Taro 9 ar S4C; a Manylu, Stiwdio a'r Silff Lyfrau ar BBC Radio Cymru. Mae Kate wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen radio foreol Post Cyntaf ers mis Ionawr 2013. Ar 25 Ionawr 2021 newidiwyd enw y rhaglen i Dros Frecwast ac ymunodd Dylan Ebenezer fel cyflwynydd.[2]
Cyhoeddodd lyfr Mwy na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas yn 2014 a roedd ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2015.[1]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Cyfres Hwylio 'Mlaen: Y Sîn Roc, Ionawr 1995 (Y Lolfa), ISBN 9780862433703
- Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas, Mawrth 2014, (Cyhoeddiadau Barddas), ISBN 9781906396688
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Post Cyntaf - Kate Crockett". bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Ionawr 2016.
- ↑ Cyflwynydd ac enw newydd i raglen newyddion Post Cyntaf , BBC Cymru Fyw, 11 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Kate Crockett, Radio Cymru Archifwyd 2013-07-07 yn Archive.is
- Kate Crockett, Twitter