Keith Allen
Keith Allen | |
---|---|
Ganwyd | Keith howell charles Allen 2 Medi 1953 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, cyflwynydd teledu, cyfarwyddwr ffilm, cerddor, llenor, cyfansoddwr caneuon, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor teledu |
Priod | Alison Owen, Nira Park |
Partner | Julia Sawalha, Tamzin Malleson |
Plant | Alfie Allen, Lily Allen |
Mae Keith Philip George Allen (ganed 2 Medi 1953) yn actor, digrifwr, canwr-cyfansoddwr ac awdur Seisnig a aned yng Nghymru. Ef hefyd yw tad y gantores Lily Allen ac mae ef wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu, ffilmiau a cherddoriaeth.
Ei yrfa actio
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Allen mewn nifer o ffilmiau a wnaed gan The Comic Strip Presents... (yn fwyaf amlwg "The Bullshitters", a oedd yn barodi o The Professionals) ar Sianel 4 ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddo ddod yn enwog am ei act yn y Comedy Store ym 1979. Yn frawd i'r digrifwr a'r cyfarwyddwr ffilm Kevin Allen, mae Keith Allen wedi chwarae rhannau difrifol a chomedi, gan chwarae rhan Brian Dennehy unwaith.
Ymddangosodd yn y ffilm gomedi dywyll, Twin Town, addasiad Sianel 4 o A Very British Coup a chwaraeodd ran y tenant sy'n marw ar ddechrau ffilm Danny Boyle, Shallow Grave (1994). Yn yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad y BBC o Martin Chuzzlewit. Cafodd ran hefyd yn un o ffilmiau eraill Danny Boyle, yn chwarae rhan deliwr cyffuriau yn y ffilm Trainspotting (1996).
Teledu
[golygu | golygu cod]- A Very British Coup (1988)
- Making Out (1989-90)
- Faith (1994)
- Martin Chuzzlewit (1994)
- The Young Person's Guide to Becoming a Rock Star (1998)
- Adrian Mole: The Cappuccino Years (2001)
- Robin Hood (2006-2009)
- The Runaway (2011)
- The Body Farm (2011)
- My Mad Fat Diary (2014-2015)
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- The Young Americans (1993)
- Twin Town (1997)
- Rancid Aluminium (2000)
- My Wife Is an Actress (2001)
- De-Lovely (2004)
- The Magnificent Eleven (2011)
- Eddie the Eagle (2016)
- Kingsman: The Golden Circle (2017)