(Translated by https://www.hiragana.jp/)
Kjósarhreppur - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Kjósarhreppur

Oddi ar Wicipedia
Kjósarhreppur
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth285 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethÞorbjörg Gísladóttir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjavík Fawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Yn ffinio gydaHvalfjarðarsveit Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.3064°N 21.4992°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethÞorbjörg Gísladóttir Edit this on Wikidata
Map
Map lleoliad bwrdeistref Kjosarhreppur mewn coch
Laxá yn Hvalfirði

Bwrdeistref yng Ngwlad yr Iâ yw Kjósarhreppur, a elwir hefyd yn Kjós. Dyma ran fwyaf gogleddol Reykjavík Fawr neu'r Höfuðborgarsvæðið (Ranbarth y Brifddinas) fel y'i gelwir yn swyddogol.

Poblogaeth y fwrdeistref yw 221 a'i hardal yw 284 km sgwâr.

Gorolwg

[golygu | golygu cod]

Ffinir Kjós i'r de-orllewin gan brifddinas Reykjavíkurborg ac i'r de gan Hvalfjörður. Yn y gogledd-ddwyrain mae'n ffinio â bwrdeistref Hvalfjarðarsveit ac yn y dwyrain ar gymuned Bláskógabyggð. Yn y dwyrain pell yw'r mynydd Botnssúlur, i'r de ohoni y llynnoedd Sandvatn a Myrkavatn, sy'n llifo i'r Öxará.

Lleolir llyn Meðafellsvatn yn gymharol ganolog yn y fwrdeistref.

Tu fewn i'r bwrdeistref mae cymoedd Miðdalur, Eilífsdalur, Flekkudalur, Eyjadalur, Laxárdalur, Svínadalur, Fossárdalur a Brynjudalur.

Traffig

[golygu | golygu cod]

Mae'r ardal wedi'i gysylltu â'r Hringvegur (cylchffordd genedlaethol Gwlad yr Iâ) gan Ffordd rhif 47, sy'n rhedeg ar hyd Hvalfjörður. Mae Ffordd 48 yn cysylltu â Þingvallavegur, ffordd 36, o ran ogleddol yr ardal i'r de.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]