Lutry
Math | bwrdeistref y Swistir |
---|---|
Poblogaeth | 10,289 |
Pennaeth llywodraeth | Jacques-André Conne |
Gefeilldref/i | Sigriswil |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lavaux-Oron District |
Gwlad | Y Swistir |
Arwynebedd | 8.46 km² |
Uwch y môr | 383 metr, 597 metr |
Gerllaw | Llyn Léman |
Cyfesurynnau | 46.51508°N 6.69902°E |
Cod post | 1095 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Lutry |
Pennaeth y Llywodraeth | Jacques-André Conne |
Tref a commune yn y Swistir ar lannau gogleddol Llyn Genefa yw Lutry. Mae'n perthyn i ardal Lavaux yn canton Vaud, a lleolir 5 km i'r de-ddwyrain o brifddinas y canton Lausanne. Ei phoblogaeth yw 8662 o drigolion (amgangyfrif 31 Rhagfyr 2005). Ar ddechrau'r 20g roedd hi'n dref ffarmio, ond heddiw mae llawer o'r trigolion yn teithio i Lausanne i weithio. Mae cynhyrchu gwin yn dal yn bwysig: mae gwinoedd appellation Lutry ac appellation Villette yn dod o'r ardal, ac dathlir gŵyl y Fête des Vendanges ar ddiwedd y cynhaeaf grawnwin.
Hanes y dref
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd 24 o feini hirion o'r Oes Haearn yn Lutry yn ystod gweithiau adeiladu maes parcio ym 1984. Mae hyn yn awgrymu i safle gael ei aneddu 4500-4000 o flynyddoedd CC. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y dref (fel Lustriacum) yn dyddio i 516. Cafwyd ffurfiau eraill ar yr enw yn ystod yr Oesoedd Canol: Lustraco (907), Lustriei (1147), Lustrey (1160), Lustrie (1213) a Lustriez (1536). Defnyddiwyd y ffurf gyfoes (fel Lutri) am y tro cyntaf ym 1849. Mae'r hen dref ganoloesol mewn cyflwr da gyda'i strydoedd cul a hen dai o'r bymthegfed i'r 18g. Dim ond y Tour du Bourg-Neuf sy'n aros o hen furiau a phyrth y dref.
Treuliodd yr ysgrifennwr Cymraeg Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) gyfnod yn Lutry yn dysgu Saesneg mewn ysgol breifat.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Gwefan y dref (Ffrangeg)