Mari Jones
Mari Jones | |
---|---|
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1784 |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1864 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
- Am y bregethwraig, gweler Goleuadau Egryn.
Roedd Mary Jones (16 Rhagfyr 1784 - 28 Rhagfyr 1864) yn ferch i wehydd o Lanfihangel-y-Pennant, yn yr hen Sir Feirionnydd, Gwynedd heddiw. Yn ôl arferiad yr oes, oherwydd mai Saeson oedd yn cofrestru genedigaethau 'Mary' a sgwennwyd ar ei thystysgrif geni, ond 'Mari' fyddai ei henw o ddydd i ddydd.
Yn ferch ifanc bymtheg oed, yn 1800, dywedir iddi gerdded yn droednoeth o bwthyn bach y teulu, "Ty'n y Ddôl", Llanfihangel-y-Pennant i Abergynolwyn, drwy'r Brithdir yr holl ffordd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Methodist enwog Thomas Charles. Yn ôl traddodiad dyna'r digwyddiad a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.
Bu farw'n 80 oed a'i chladdu ym Mryn-crug ble ceir cofeb iddi.
Cofadail yn Llanfihangel-y-Pennant
[golygu | golygu cod]Ar flaen y gofadail i Mari Jones a godwyd ar safle adfeilion y bwthyn lle trigai yn Llanfihangel-y-Pennant, ger pen gogleddol Pont Ty'n-y-fach, ceir yr arysgrif ddwyieithog hon:
YR HON YN Y FLWYDDYN 1800, LLE HWN I'R BALA, I YMOFYN BEIBL
|
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl llyfr am ei hanes gan Robert Oliver Rees
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- E. Wyn James: 'Bala a'r Beibl: Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones'
- E. Wyn James, 'Thomas Charles, Mary Jones a Chymdeithas y Beibl': https://www.youtube.com/watch?v=dL6LjpZHZ2I&list=PLWFpvNU2NRSuBEH_zfDGa8zNrmsQW0A0d&index=7
- E. Wyn James, 'Mary Jones: Eicon Rynglwadol': https://www.youtube.com/watch?v=FY_rKYOtFT8&t=2664s
- Cymdeithas y Beibl
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ffacsimili o Feibil Mari Jones, gyda dyddiad ei phen-blwydd
-
Ysgythriad o gyhoeddiad 1919 o The story of Mary Jones and her Bible gan Mary Emily Ropes. Y llythyren 'M' ar ddechrau pennod IV.
-
"Ty'n y Ddôl", Llanfihangel-y-Pennant
-
Cartref Mari
-
Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-y-Pennant, ger cartref Mari