Michelle Probert

Oddi ar Wicipedia
Michelle Probert
Ganwyd17 Mehefin 1960 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau56 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Mae Michelle Probert (ganwyd 17 Mehefin 1960) yn gyn-athletwr Olympaidd benywaidd o Brydain. Roedd hi'n gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1982 yn Brisbane, Awstralia, lle enillodd fedal arian yn y 400 metr, y tu ôl i Raelene Boyle o Awstralia. Priododd hi a'r athletwr Steve Scutt ym 1980. Enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1980 ym Moscfa, gan redeg trydydd cymal y ras gyfnewid 4 × 400 m.

Cafodd Probert ei geni yn Lerpwl. Roedd hi'yn bencampwraig Cymru ar 100m (1978–1982), 200m (1978, 1980–1982) a 400m (1979 a 1984). Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 yn Los Angeles yn y 400m[1] gan gyrraedd y rownd gyn derfynol, [2] ac yn y ras gyfnewid 4 × 400 m cyrraedd y rownd derfynol a gorffen yn y pedwerydd safle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Gareth (13 Gorffennaf 2016). "Seren Bundy-Davies only Welsh athlete in GB squad for Rio 2016 Olympics". walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.
  2. Parsons, Mike (8 Awst 2008). "BEIJING 2008: Been there and done it!". Warrington Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.