Milgi Eidalaidd
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Màs | 5 cilogram |
Gwlad | yr Eidal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci arffed a helgi sy'n tarddu o'r Eidal yw'r Milgi Eidalaidd. Hen frîd sy'n hanu o'r Milgi yw hwn, a bu'n gi anwes poblogaidd gan aristocratiaid Ewrop. Mae ganddo daldra o 33 i 38 cm ac yn pwyso 3 i 4.5 kg. Mae'n edrych fel milgi bychan: llygaid mawr a chôt denau, loyw o liw dugoch, melynllwyd, hufen, gwyn, glasllwyd neu lwyd. Ci bywiog ac addfwyn yw'r Milgi Eidalaidd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) greyhound. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2016.