Mitzi Gaynor
Mitzi Gaynor | |
---|---|
Ffugenw | Mitzi Gaynor |
Ganwyd | Francesca Marlene de Czanyi von Gerber 4 Medi 1931 Chicago |
Bu farw | 17 Hydref 2024 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, dawnsiwr, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan |
Priod | Jack Bean |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Mary Pickford Award |
Roedd Mitzi Gaynor (ganwyd Francesca Marlene de Czanyi von Gerber; 4 Medi 1931 – 17 Hydref 2024) yn actores a chantores Americanaidd. Roedd ei ffilmiau nodedig yn cynnwys South Pacific (1958), y cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Golden Globe am yr Actores Orau - Motion Picture Comedy neu Sioe Gerdd yng ngwobrau 1959.
Cafodd ei geni yn Chicago, [1] yn ferch i Henry de Czanyi von Gerber, fcerddor a chyfarwyddwr cerdd o dras Hwngari, a'i wraig Pauline, dawnsiwr.[2][3][4] [5]
Trwy ail briodas ei thad, daeth Mitzi Gaynor yn llyschwaer i'r ymgyrchydd gwrth-ryfel Donald W. Duncan.[6] Symudodd y teulu gyntaf i Elgin, Illinois, [7] yna i Detroit ac yn ddiweddarach, pan oedd hi'n 11 oed, i Hollywood . Dechreuodd ei gyrfa fel dawnwraig bale. Yn 13 oed, roedd hi’n canu ac yn dawnsio gyda chwmni Civic Light Opera .
Arwyddodd Gaynor gontract saith mlynedd gyda Twentieth Century-Fox yn 17 oed. Roedd hi'n canu, yn actio ac yn dawnsio mewn nifer o sioeau cerdd ffilm. [3] Gwnaeth Gaynor ei ffilm gyntaf yn y sioe gerdd My Blue Heaven (1950);[8] Roedd ganddi rôl gefnogol.
Serenodd Gaynor fel Lotta Crabtree yn y ffilm gerddorol Golden Girl (1951).[9] Roedd Gaynor yn un o sawl seren yn y flodeugerdd gomedi We're Not Married! (1952), ac yna cafodd y bil uchaf yn y sioe gerdd Bloodhounds of Broadway (1952). [10]
Ffilm fwyaf poblogaidd Gaynor yn ei chyfnod yn Fox oedd There's No Business Like Show Business (1954) gan Irving Berlin . Cafodd ei bilio ar ôl Ethel Merman, Dan Dailey, Marilyn Monroe, Donald O'Connor, a Johnnie Ray .
Priododd Gaynor â Jack Bean yn San Francisco ym 1954. Roedd eu cartref ar North Arden Drive yn Beverly Hills, Califfornia.[11] Does dim plant gyda nhw. Ar ôl eu priodas, rhoddodd Bean y gorau i MCA, cychwynnodd ei gwmni cyhoeddusrwydd o'r enw Bean & Rose, a rheoli gyrfa Gaynor.[3] [12][13]
Ym 1956, ymddangosodd Gaynor yn ail-wneud Paramount o Anything Goes, gyda Bing Crosby, Donald O'Connor, a Zizi Jeanmaire, wedi'i seilio'n fras ar y sioe gerdd gan Cole Porter. Ym 1957, ymddangosodd Gaynor yn Les Girls gan MGM, a gyfarwyddwyd gan George Cukor, gyda Gene Kelly.
Daeth Gaynor yn enwog am ei rôl serennu, fel Nellie Forbush, yn fersiwn ffilm South Pacific. [8]
Bu farw Jack Bean, gŵr Gaynor o 52 mlynedd, yn 2006 o niwmonia yng nghartref y cwpl, yn 84 oed. [14]
Bu farw Gaynor o achosion naturiol yn Los Angeles ar 17 Hydref 2024 yn 93 oed.[15][16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James Robert Parish; Michael R. Pitts (2003). Hollywood Songsters: Garland to O'Connor (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 345. ISBN 978-0-415-94333-8.
- ↑ "Gaynor's father's Hungarian descent". CBS news.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Awst 2022.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 McManus, Margaret (12 Hydref 1969), "Presenting Francesca Mitzi", The Milwaukee Journal
- ↑ Motion Picture, Macfadden-Bartell, 1952, p. 86
- ↑ "unknown?", Daily Boston Globe: 7, 22 Ionawr 1955
- ↑ McFadden, Robert D. (6 Mai 2016). "Donald W. Duncan, 79, Ex-Green Beret and Early Critic of Vietnam War, Is Dead". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Hydref 2024.
- ↑ Sotonoff, Jamie; Gire, Dann (19 Mawrth 2013). "Mitzi Gaynor: Superstar, one-time Elgin girl". Daily Herald. Arlington Heights, Illinois.
- ↑ 8.0 8.1 "Mitzi Gaynor, star of South Pacific, dies aged 93". The Independent (yn Saesneg). 17 Hydref 2024. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.
- ↑ "The Top Box Office Hits of 1951", Variety, 2 Ionawr, 1952.
- ↑ 'Top Box-Office Hits of 1952', Variety, January 7, 1953
- ↑ Christy, George (9 Ionawr 2015). "Memories" (PDF). The Beverly Hills Courier. t. 6.
- ↑ Parish, James Robert; Pitts, Michael R. (2003). Hollywood Songsters: Singers Who Act and Actors Who Sing: Biographical Dictionary, Volume 2. Taylor & Francis. t. 346. ISBN 978-0-415-94333-8.
- ↑ Johnson, Erskine (10 Awst 1957), "unknown?" (yn en), Warsaw Times-Union (Warsaw, Indiana): 8
- ↑ "Producer Bean dies". Variety. 11 December 2006. Cyrchwyd 17 October 2024.
- ↑ Huamani, Kaitlyn; Thomas, Bob (17 October 2024). "Mitzi Gaynor, star of 'South Pacific,' dies at 93". Associated Press. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.
- ↑ Barnes, Mike; Byrge, Duane (17 Hydref 2024). "Mitzi Gaynor, Showbiz Dynamo and Star of 'South Pacific,' Dies at 93" (yn Saesneg). The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 17 Hydref 2024.