Claudio Monteverdi
Claudio Monteverdi | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1567 Cremona |
Bedyddiwyd | 15 Mai 1567 |
Bu farw | 29 Tachwedd 1643 Fenis |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis |
Galwedigaeth | damcaniaethwr cerddoriaeth, fiolydd, offeiriad Catholig, cyfansoddwr clasurol, canwr, cyfansoddwr, cyfansoddwr opera, coreograffydd, cerddolegydd |
Swydd | côr-feistr, côr-feistr |
Adnabyddus am | L'incoronazione di Poppea, L'Orfeo, Il ritorno d'Ulisse in patria, Il combattimento di Tancredi e Clorinda |
Arddull | opera, cerddoriaeth faróc |
Mudiad | cerddoriaeth y Dadeni, cerddoriaeth faróc |
Priod | Claudia de Cattaneis |
llofnod | |
Cyfansoddwr ac offeiriad o'r Eidal oedd Claudio Monteverdi (bedyddiwyd 15 Mai 1567 - 29 Tachwedd 1643). Mae ei waith fel cyfansoddwr yn garreg filltir bwysig sy'n nodi'r trawsnewid o gerddoriaeth y Dadeni i gerddoriaeth Faróc.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Cremona'n fab i'r meddyg Baldassare Monteverdi. Yn 1599 priododd y gantores llys Claudia Cattaneo,[2] a fu farw ym Medi 1607.[3] Roedd ganddynt ddau fab (Francesco a Massimilino) a merch (Leonora). Bu farw merch arall yn union wedi' enedigaeth.[4]
Yn 1632 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Pabyddol.[5]
Bu farw Monteverdi yn Fenis ar 29 Tachwedd 1643, ar ôl cystudd byr, a chladdwyd ef yn y Basilica di Santa Maria Gloriosa dei Frari.
Ei waith fel cyfansoddwr
[golygu | golygu cod]Roedd yn un o arloeswyr mwyaf blaenllaw dwy arddull gerddorol: 'Deulais y Dadeni' (Renaissance polyphony) a'r basso continuo, dau o dechnegau pwysicaf y Baróc.[4] Cyfansoddodd Monteverdi un o'r operâu cyntaf erioed: y L'Orfeo, a dyma'r opera hynaf - sy'n dal i gael ei chanu'n rheolaidd heddiw. Caiff Monteverdi ei ystyried yn gyfansoddwr a ddarganfu ei lais ei hun; llais newydd, gwahanol a chafodd y clod teilwng yn ystod ei oes yn ogystal ag wedyn.[4]
Yn ystod ei flynyddoedd olaf, mewn cyfnod o salwch, y cyfansoddodd ddau o'i gampweithiau gorau: Il ritorno d'Ulisse in patria (Dychweliad Ulysses, 1641), a'r opera hanesyddol L'incoronazione di Poppea (Coroni'r Poppea, 1642), sy'n seiliedig ar fywyd yr Ymerawdwr Nero.[6] Cyfrifir y L'incoronazione yn hynod bwysig, ei fagnum opus, ac mae'n cynnwys golygfeydd sy'n gymysgedd o drasiedi, rhamant a hwyl - yn union fel bywyd ei hun. Caiff hefyd ei gyfri fel llafn y swch Faróc, a dorrodd dir newydd, gyda'i gymeriadau real a'i gynghanedd cerddorol cynnes.[7] Hyd at y 1960 ystyriwyd ei weithiau drwy lygad yr hanesydd yn hytrach na'r cerddor, ond ers hynny fe'i gosodir ar lwyfan llawer uwch, yn enwedig The Coronation of Poppea, sy'n cael ei chanu heddiw ledled y byd.
Y madrigalau
[golygu | golygu cod]Ar fadrigalau y gweithiodd hyd nes oedd yn ei bedwar-degau, a chyfansoddodd naw llyfr. Cymerodd bedair blynedd i orffen ei lyfr cyntaf o 21 madrigal, ar gyfer 5 llais.[8] Fel cyfanwaith, gellir olrhain yr esblygiad o gerddoriaeth y Dadeni i arddull 'fonodig' cerddoriaeth Faróc yn y gweithiau hyn.
Yn dilyn ei farwolaeth
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â nifer o enwau ffyrdd, neilltuwyd hefyd asteroid i'w goffáu: 5063 Monteverdi.[1] Ceir nifer o gorau a llefydd hefyd sy'n dwyn ei enw: Grŵp Polyffonig Claudio Monteverdi, Crema di Claudio Monteverdi Coro a Chôr Monteverdi.
Cyfansoddiadau
[golygu | golygu cod]Operâu
[golygu | golygu cod]Cyfansoddodd Monteverdi o leiaf deunaw opera. Dim ond y rhai a restrir isod sydd wedi goroesi.
- L'Arianna (yr aria Lamento d'Arianna yn unig sy'n goroesi)
- L'Orfeo
- Il ritorno d'Ulisse in patria
- L'incoronazione di Poppea
Gweithiau seciwlar a chrefyddol
[golygu | golygu cod]- Il Combattimento di Tancredi e Clorinda
- Vespro della Beata Vergine
- Selva Morale e Spirituale (1640)
- Scherzi Musicali
- Madrigali Guirreri et Amorosi
- Naw llyfr o fadrigalau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Collier's Encyclopedia, gol. William D. Halsey, cyf. 16 (Efrog Newydd: Macmillan Educational Company, 1991)
- ↑ The Cambridge Companion to Monteverdi, gol. John Whenham a Richard Wistreich (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007)
- ↑ The Cambridge Companion to Monteverdi, tud. 66.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Mark Ringer, Opera's First Master: The Musical Dramas of Claudio Monteverdi (Canada: Amadeus Press, 2006)
- ↑ New Catholic Encyclopedia, 2il argraffiad, gol. Benard L. Marthaler (Detroit: Thomson Gale, 2003
- ↑ The New Grove Dictionary of Music and Musicians, 2il argraffiad, gol. Stanley Sadie (Llundain: Macmillan, 2001)
- ↑ The New Monteverdi Companion, gol. Denis Arnold a Nigel Fortune (Llundain: Faber, 1985).
- ↑ Leo Schrade, Monteverdi: Creator of Modern Music (Efrog Newydd: W. W. Norton & Company, 1950)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The New Monteverdi Companion, gol. Denis Arnold a Nigel Fortune (Llundain: Faber and Faber, 1985)
- The Cambridge Companion to Monteverdi, gol. John Whenham a Richard Wistreich (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2007)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Eidaleg) Fondazione Claudio Monteverdi
- (Saesneg) Sgorau gan Claudio Monteverdi